Cyn y ‘clo mawr’ roedd sawl Menter Iaith yn cynnal sesiynau sgwrsio, paned a chlonc, bore coffi, peint a sgwrs a phob math o gyfleoedd i bobl yn eu cymunedau ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n braf gweld bod y rhain dal i barhau yn ystod Covid19, a hynny ar-lein! Dyma hanes un grŵp sgwrsio sy’n cael ei gynnal gan Fenter Iaith Merthyr Tudful a Chanolfan Soar diolch i swyddog datblygu’r fenter leol, Owen Howell:

“Y bwriad oedd i gynnal sesiynau siarad ar-lein i siaradwyr rhugl a dysgwyr allu dod ynghyd i sgwrsio yn ystod y cyfnod yma. Roedd llawer o’n defnyddwyr yn dibynnu ar y ganolfan a’r grwpiau a oedd yn cwrdd yno, er mwyn defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg, felly, rydym wedi symud y sesiynau hyn ar-lein trwy ddefnyddio cyfrwng Zoom. Yn ogystal â’r ochr Gymraeg, mae’r sesiynau hefyd yn gyfle i’n defnyddwyr gymdeithasu gan fod llawer ohonynt yn bobl mewn oed ac felly wedi bod yn ynysu am fisoedd.

Dechreuodd y sesiynau cyntaf gyda phobl oedd yn defnyddio’r ganolfan ac yn mynychu grwpiau oedd yn bodoli’n barod. Fodd bynnag, trwy rannu’r dolenni ar y grŵp Facebook ‘Dwi’n dysgu Cymraeg’ rydym wedi llwyddo i gysylltu gyda phobl o bedwar ban byd, sy’n dysgu Cymraeg. Yn wythnosol, mae mynychwyr y sesiynau’n cynnwys pobl o: Montreal, Adelaide, Queensland, Kings Llynn, Lerpwl ac wrth gwrs, Merthyr Tudful!

Mae hyn wedi ein galluogi i greu rhwydwaith rhyngwladol o bobl sy’n sgwrsio ac yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn blatfform i ddysgwyr barhau gyda’u taith Gymraeg tra nad oes modd iddyn nhw fynychu gwersi ac yn y blaen. Hefyd, mae’r elfen cymdeithasu, a rhannu straeon a theimladau o wledydd eraill, yn helpu pobl i ddeall bod y cyfnod yma a’i heriau’n rhywbeth sy’n berthnasol i bawb ar draws y byd.

Gan fod llawer o’r bobl sy’n cymryd rhan yn dod i’r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn, rydym yn cynllunio aduniad rhyngwladol dros y blynyddoedd nesaf!”

Mae croeso i bawb ymuno yn y sesiynau a gynhelir ar-lein gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch gyda’r Mentrau trwy eu tudalennau Faebook neu drwy yrru e-bost i ddysgu sut mae cymryd rhan. Dyma amserlen ar gyfer y sesiynau sgwrsio wythnosol:

Sesiynau Sgwrsio