Eisteddfod yr Urdd

Bob blwyddyn am wythnos ddiwedd mis Mai mae ieuenctid Cymru yn dod at ei gilydd i gystadlu a dathlu diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Urdd Gobaith Cymru sy’n trefnu’r ŵyl. Mae’n fudiad yn arbennig i blant a phobl ifanc Cymru (a thu hwnt) allu mwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn y Gymraeg. A hynny ers dros 100 o flynyddoedd!

Mae hanes Urdd Gobaith Cymru a gwybodaeth am Eisteddfod yr Urdd ar gael yma.