Gwreiddiau Gwyllt

Mae Gwreiddiau Gwyllt yn falch o gyhoeddi bod y Gronfa Adnoddau Natur yn barod i’w defnyddio. Dilynwch y ddolen i ddod o hyd i amryw o adnoddau natur yn y Gymraeg. Cynhyrchwyd y rhain gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys prosiect Gwreiddiau Gwyllt y Mentrau Iaith, sy’n addas ar gyfer gwahanol grwpiau ac oedrannau. Gallent fod o ddefnydd i ddysgwyr Cymraeg, teuluoedd a sefydliadau addysgiadol.

Mae modd adnabod rhywogaethau trwy ap Plantnet.

Mae llawer o ddigwyddiadau diddorol ar y gweill a phosteri hysbysebu i’w weld ar instagram a dudalennau facebook Mentrau Iaith Cymru, Menter Iaith Conwy a Menter Iaith Castell-Nedd Port Talbot. Mae nifer o Fentrau Iaith eraill hefyd yn trefnu gweithgareddau natur ar gyfer 2025. Cysylltwch â’r Rheolwyr Prosiect Nia a Nia o ‘Y Pethau Bychain’ am fwy o wybodaeth:gwyb@ypb.cymru

Rydym ni hefyd ar Instagram.

Beth am ddarllen ein blog misol Geiriau Gwyllt i ddarganfod mwy o wybodaeth difyr iawn am fywyd gwyllt yng Nghymru?

Rydym yn falch o rannu tudalen blaen taflen cyffrous rydym wedi’i chyhoeddi ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo llyfrau natur yn y Gymraeg, Edrychwch allan amdani hi yn eich siop lyfrau neu llyfrgell lleol

.

Mae’r Swyddogion Maes, Judith@mentrauiaith.cymru yn Sir Gonwy a chriw yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi cynnal gweithgareddau hwyliog ym mhob cwr o’u hardaloedd, gyda grwpiau o bobl ifanc, teuluoedd a siaradwyr newydd. Dyma flas ar rai gweithgareddau diweddar:

“Hoffwn i ddychwelyd yn y dyfodol. Hefyd, pan es i am dro trwy coedwig heddiw dw i’n chwilio am blanhigion ac yn trio cofio eu henwau Cymraeg.”

Mae Mentrau Iaith Cymru yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am ariannu’r prosiect.