Y Mentrau Iaith

Cryfhau'r Gymraeg yn y Gymuned

Dod o Hyd i fy Menter Iaith Leol

*Swydd* – Swyddog Datblygu Cymunedol

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am berson brwd ac egnïol i weithio gyda ni o fewn cymunedau siroedd y Fflint a Wrecsam.  Mae angen medru siarad Cymraeg ar gyfer y rôl ond croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg llai hyderus neu ddysgwyr lefel uwch. ...

Eisteddfod yr Urdd – Gweithgareddau’r Mentrau Iaith

Bydd stondin y Mentrau Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd yn llawn gweithgareddau i blant a phobl ifanc. O sesiynau stori a chân gyda Magi Ann i'r plantos bach i sesiynau dawnsio stryd ac Ukelele i'r rhai hŷn. Bydd rhywbeth sydd at ddant pawb. Dewch am hwyl a sbri i...

*Swydd* Swyddog Datblygu

Mae Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn chwilio am Swyddog Datblygu hyderus ac egnïol i ymuno â’r tîm i ddatblygu prosiectau teuluoedd, plant a pobl ifanc a chymunedol.

WYTH – Prosiect Newydd Sbon i Ddathlu Dawnsio Cymreig

Mae WYTH yn brosiect newydd sbon i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig. Nod y cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng Menter Iaith Maldwyn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwlwm Celtaidd a nifer o artistiaid llawrydd yw dathlu dawnsio gwerin a chlocsio a chreu cyfleoedd i dorri tir newydd yn y maes.

*Swydd* Swyddog Prosiect Ardal Arfordirol

Cyfle i weithio yn cefnogi grwpiau cymunedol ac yn hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd yngngogledd siroedd Conwy a Dinbych 22 awr yr wythnos (gyda rhai oriau gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol) Cytundeb hyd ddiwedd 2025, yn ddibynnol ar asesiad cyfnod prawf...

Cwis Dim Clem – a’r enillydd yw……

Bu i filoedd o blant ar draws Cymru gystadlu yn Cwis Dim Clem eleni. Roedd yn agos at 200 o ysgolion wedi cystadlu mewn cwis poblogaidd sy’n cael ei threfnu gan y Mentrau Iaith. Rhaid oedd i dimau o flwyddyn 6 gystadlu drwy ateb cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol ac...

Digwyddiadau