Y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol
Yma rydym yn gosod ein safbwyntiau am y Gymraeg, y gymuned a’r economi leol gan gynnwys ystadegau diweddar gan rwydwaith y Mentrau Iaith. Gallwch ddarllen yma hefyd ambell enghraifft o brosiectau cymunedol a masnachol y Mentrau Iaith sy’n cyfrannu tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, i greu cymunedau ffyniannus ac i ddatblygu’r economi leol.
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda Covid19 yn effeithio pob rhan o fywyd, i’r Gymraeg, i gymunedau a’r economi. Felly mae angen, yn fwy nag erioed, i sicrhau buddsoddiad a chefnogaeth ddigonol er mwyn gwarchod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a datblygu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ein galwadau – yn gryno
Y Gymraeg
- Buddsoddi i ddatblygu’r Gymraeg yn y byd technoleg digidol
- Datganoli darlledu
- Sicrhau bod mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, bod cefnogaeth i rieni
- Cael gwared ar rwystrau rhag dysgu’r Gymraeg
- Addysgu athrawon am hanes Cymru a hanes lleol
- Cyngor gyrfa sy’n cynnwys cyfarwyddyd penodol am y Gymraeg
- Cynyddu prentisiaethau drwy’r Gymraeg
- Sicrhau fod canran penodol o lefydd ar gyrsiau gradd ym Mhrifysgolion Cymru i siaradwyr Cymraeg
- Ymestyn Safonau’r Gymraeg
Y Gymuned
- Asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau newydd yn annibynnol a di duedd
- Grymoedd i awdurdodau lleol i reoli’r farchnad dai
- Deddfu i warchod enwau Cymraeg
- Adrannau Llywodraeth Cymru i ddeall eu cyfrifoldeb o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gynnwys y Gymraeg mewn cynlluniau
- Cydweithio gyda mudiadau fel y Mentrau Iaith wrth gynllunio rhaglenni, megis rhai Trechu Tlodi
Yr Economi leol
- Creu rhwydwaith o Swyddogion Mentrau Cymdeithasol i sefydlu gweithleoedd cyfrwng Cymraeg
- Parhau i gynnal rolau Swyddogion Helo Blod lleol trwy gyswllt y Mentrau Iaith lleol
- Cynllunio a chydlynu rhwng yr angen am y Gymraeg mewn swyddi a’r byd addysg
- Cynyddu isafswm grant y Mentrau Iaith i £100,000 y flwyddyn a chwyddiant