Dyma’r fan i gael yr holl wybodaeth am gigiau, cyngherddau, gwyliau cerddorol ag ati mae’r Mentrau Iaith yn eu trefnu neu yn gweithio arnynt! Popeth sydd yn ymwneud gyda cherddoriaeth / miwsig!

Gwyliau / Festivals

Clicia ar y ddewislen i allu gweld rhestr o wyliau mae’r Mentrau Iaith yn eu trefnu ar draws Cymru – mae digonedd o ddewis a rhywbeth i blesio pawb.

Pam Gwyliau?

Mae’r gwyliau hyn yn arddangos y cyfleon sydd yno i allu ymwneud a mwynhau yn Gymraeg. Yr hyn sydd yn cael ei ganolbwyntio yma wrth gwrs, yw’r gerddoriaeth! Mae’n nhw’n cynnwys cerddoriaeth Gymraeg o bob genre – roc, pop, gwerin, tawel, swnllyd – a rhywle yn y canol! Mae’r Mentrau Iaith yn arbenigo ar y lleol wrth gwrs, ac mae’r gwyliau hyn yn blatfform gwych i fandiau ac artistiaid unigol hynny sydd yn byw yn ardal y Mentrau.

Diddordeb cymryd rhan?

Cysyllta gyda dy Fenter lleol – ble mae dy Fenter? Cer yma i gael mwy.

Gwirfoddoli

Mae’r gwyliau hyn yn gyfle gwych i wirfoddoli yn y Gymraeg trwy stiwardio, rhannu gwybodaeth, helpu gyda’r dechnoleg neu i ddal llaw Magi Ann hyd yn oed! Dyma fideo rhai o wirfoddolwyr un ŵyl yng ngorllewin Cymru yn sôn am eu profiadau: