Mae Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi gwaith dy Fenter Iaith leol i hyrwyddo’r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru. Chwilio am fwy o wybodaeth? Mae croeso i ti gysylltu ag un o’r swyddogion neu drwy ddefnyddio’r ffurflen i’r dde.
Ry’n ni wedi’n lleoli mewn dwy swyddfa, yn Llanrwst, o fewn i swyddfa Menter Iaith Conwy, ac yng Nghanolfan Gymraeg Yr Atom yng Nghaerfyrddin. Er hyn, ry’n ni’n gweithio ar hyd a lled Cymru, weithiau o’n cartrefi, felly gallwn gwrdd â thi ym mhle bynnag sy’n gyfleus, mewn person neu ar-lein.
Cael trafferth defnyddio grisiau? Cysyllta o flaen llaw ac fe geisiwn drefnu cyfarfod â thi mewn man arall.
Mentrau Iaith Cymru,
22 Y Sgwâr,
Llanrwst,
Conwy,
LL26 0LD
01492 643401
Eisiau cysylltu gydag un o’r tîm? Clicia yma
Polisi Cwynion
Ry’n ni ym Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn rhoi’n cynulleidfa yn gyntaf, gan wella ansawdd ein gofal cwsmer a’r cynnig i’n haelodau.
Ry’n ni’n croesawu unrhyw farn am wasanaeth MIC, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, a byddwn yn trin â chwynion yn deg.