Pwy yw Magi Ann?
Llyfrau wedi eu hysgrifennu gan Mena Evans gyda’r nod o gefnogi plant a’u teuluoedd i ddysgu darllen yn Gymraeg, a Magi Ann yw’r prif gymeriad. Mae’r llyfrau yn parhau i fod yn boblogaidd ddegawdau yn ddiweddarach, gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi datblygu nifer o’r storïau i fod yn apiau hwylus.
Enillodd yr apiau lliw wobr y Loteri Genedlaethol yn y Categori Addysgol yn 2017.
Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn gallu cynnig sesiynau stori gyda Magi Ann, ac mae hi’n aml i’w gweld mewn gwyliau a digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal neu eu cefnogi gan y Mentrau Iaith.


*Mae apiau Magi Ann ar gael, yn rhad ac am ddim, yma:
App Store: https://apps.apple.com/gb/app/llyfrau-bach-magi-ann/id936035789
Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.sbectol.magiann.build&hl=en_US&gl=US
Tudalen Facebook Magi Ann yma, ac mae ganddi ddolen Twitter!
Mae modd prynu casgliad o lyfrau Magi Ann ar eu newydd wedd drwy fynd at wefan y cyheoddwyr Atebol yma!

Symud gyda Tedi
Tedi ydi un o ffrindiau Magi Ann ac oes, mae gan Tedi ei dudalen Facebook ei hun hefyd – yma!
Beth yw Symud Gyda Tedi?
- Sesiynau cadw’n heini ar gyfer plant bach a’u teuluoedd drwy ddefnydd o stori a chân.
- Sesiynau dwyieithog i annog defnydd o’r Gymraeg.
- Mae’r fideos ar sianel YouTube i alluogi’r plant a’u teuluoedd i ddilyn y sesiynau yn eu cartrefi, y feithrinfa, neu’r ysgol.
- Mae’r sesiynau wedi’u seilio ar straeon Magi Ann.
- Mae’r sesiynau rhwng 30 i 40 munud o hyd.
- Mae’r sesiynau yn gyfle i deuluoedd gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau oes.
- Prif nod y prosiect yw sicrhau bod pawb yn cael HWYL wrth gymryd rhan!