Mae Gŵyl Fel ‘na Mai yn ôl ar 4 Mai 2024! Gŵyl Fel ‘Na Mai (felnamai.co.uk)

Dyma’r ‘lein-yp’!

Llongyfarchiadau i Fenter Iaith Sir Benfro ar y gwaith cyd-drefnu gyda’r gymuned leol! Dyma nifer o luniau o’r ŵyl yn 2023 gan y ffotograffydd, Guto Vaughan:

Poster Gŵyl Fel Na Mai 2023:

2022

Ai hon oedd gŵyl gerddorol gyntaf yr haf? Roedd safle Parc Gwynfryn, jyst tu fas i Grymych yng ngogledd sir Benfro, yn LLAWN dop gyda theuluoedd, henoed, ieuenctid, plant, lleol ac o bell yn mwynhau cwmnïaeth, adloniant a digonedd o gerddoriaeth!

Dyma’r tro cyntaf i Gŵyl Fel ‘Na Mai ddigwydd ac mae’r diolch i Fenter Iaith Sir Benfro a’r llwyth o wirfoddolwyr fu’n brysur tu hwnt yn cael popeth yn barod.

Dyma beth lluniau o’r diwrnod – aeth ‘mlaen i’r nos!

Ar ddydd Sadwrn 7fed Mai bydd safle Frenni Transport ym Mharc Gwynfryn, trwy garedigrwydd Matthew Parry, yn fwrlwm o gerddoriaeth byw Cymraeg wrth i’r ardal groesawu pobl o bob oed o bedwar ban i’r ŵyl gerddorol Cymraeg gyntaf yng ngodre’r Frenni Fawr.

Plannwyd yr hedyn gan aelodau o Gôr Clwb Rygbi Crymych yn ystod eu hymweliad â Gŵyl Gerddorol Cei Newydd rai blynyddoedd yn ôl gan fwriadu cynnal gŵyl fechan yng Ngardd Gwrw’r Clwb Rygbi ond wrth i drafodaethau ddatblygu esblygodd y syniad ymhellach a phenderfynwyd mynd amdani! Ffurfiwyd pwyllgor gweithredol gan rai o aelodau’r côr ynghyd â Menter Iaith Sir Benfro, unigolion profiadol yn y maes hwn ac ieuenctid lleol.

Mae Gŵyl Fel ‘Na Mai bellach yn Gwmni Cyfyngedig ac edrychwn ymlaen at y cyffro wrth groesawu artistiaid hyderwn a fydd at ddant pawb. Bydd dau lwyfan sef Llwyfan Y Frenni Fawr a Llwyfan Foel Drigarn a bydd y lein-yp yn cynnwys Mei Gwynedd a’r Band, Los Blancos, Bwncath, Einir Dafydd, Dafydd Pantrod a’r Band ac ambell syrpreis arall! Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu Dafydd Iwan sydd eleni yn dathlu trigain mlynedd o berfformio. Un o amcanion gwreiddiol yr Ŵyl oedd rhoi cyfle i dalentau lleol berfformio a bydd y rhain yn cynnwys Ysgol Bro Preseli – a fydd newydd ei ffurfio, Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro, Côr Clwb Rygbi Crymych, Erin Byrne a Manon Elster-Jones.

Ychydig feddyliodd yr un ohonom pan ddechreuwyd ar y trefniadau gwreiddiol nol yn 2019 y byddem wedi colli un o’n bandiau mwyaf poblogaidd yn dilyn marwolaeth trist y brodyr Richard ac Wyn Jones. Byddai Ail Symudiad wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r Ŵyl yn 2020 a byddwn talu teyrnged haeddiannol iddynt yn ystod y dydd.

Bydd yr gweithgareddau yn cychwyn yn y prynhawn ac yn parhau tan yr hwyr, gyda’r nod o fod yn ŵyl holl gynhwysfawr ac yn ŵyl i’r teulu cyfan sy’n cynnwys gweithgareddau i blant o bob oed a digon o gyfleusterau parcio.

Un o fois y pentre’ sef Gareth Delve fydd MC yr wyl a bydd darpariaethau ar gyfer pawb yn cynnwys bar a bydd bwydydd amrywiol gan fusnesau lleol ar werth.

Am fwy o fanylion ac i archebu tocynnau ewch i www.felnamai.co.uk