Gorau Canu Cyd Ganu – Canu Cymunedol

Ymuna â ni i ganu rhai o’r caneuon mwyaf anthemig Cymraeg i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u cefnogi yn Catar! Neu cana’r caneuon pryd bynnag a lle bynnag hoffet ti.

Mae’r llyfryn yn cynnwys fersiwn ffonetic i’r rhai sy’n newydd sbon i’r Gymraeg neu heb gael blas ar iaith y nefoedd eto, fel bydd pawb yn gallu ymuno. Mae fersiwn gyda’r cordiau yno os wyt ti am roi cynnig arni ar y gitâr. Ac mae cyfieithiadau i’r Saesneg ar ddiwedd y llyfryn.

Cadwa lygaid ar agor am y sesiynau codi canu yn dy ardal ar wefan dy Fenter Iaith leol ac ar eu cyfryngau cymdeithasol!

Cafodd y llyfryn ei lansio yn nhafarn y Vale, Dyffryn Aeron ar Hydref 19eg yng nghwmni Cered – Menter Iaith Ceredigion; dyma rhai o luniau o’r noson: