Diolch i BAWB ddaeth i Tafwyl eleni (2022) – lot fawr o sbort a hwyl – tan y flwyddyn nesaf!
*
DYDDIAD:
Bydd Tafwyl 2022 yn digwydd dros deuddydd ar Ddydd Sadwrn y 18fed o Fehefin a Dydd Sul y 19eg o Fehefin.
Bydd Wythnos Ffrinj Tafwyl yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos o Ddydd Sul y 12eg o Fehefin i Ddydd Gwener y 17eg o Fehefin 2022.
LLEOLIAD:
Mae Tafwyl 2022 yn dychwelyd i Gastell Caerdydd, gyda digwyddiadau wythnos Ffrinj Tafwyl yn digwydd mewn sawl lleoliad ar draws Caerdydd.
COST:
Mae Tafwyl yn parhau i fod yn ŵyl sydd yn rhad ac am ddim i bawb ei fwynhau!
Menter Caerdydd a Tafwyl yn cyflwyno…
DRAGWYL
Bydd Connie Orff a’i ffrindiau ffabiwlys yn cynnal noson ddrag fel rhan o Wythnos Ffrinj Tafwyl – y cyntaf o’r fath yn y Gymraeg! Dewch i ddathlu popeth camp, Cwîr a Chymraeg. Bydd hi’n noson llawn gigls, gorfoledd a glityr.
Pryd? 16.6.22 am 19:30 – Clwb Ifor Bach
Gyda chefnogaeth gan Cronfa Gari
AR GYFER PWY MAE TAFWYL?
Mae Tafwyl ar gyfer pawb! Dewch i fwynhau penwythnos o gerddoriaeth, sgyrsiau, digwyddiadau, marchnad, bwyd hyfryd – i gyd yng nghanol dinas Caerdydd!
Cer i’r wefan: Tafwyl 2022 – 18-19/06/22
Felly dyma artistiaid #TAFWYL22! Pwy wyt ti’n edrych ymlaen i weld?
18 + 19 MEHEFIN 2022
Cardiff Castle / Castell Caerdydd
Cerddoriaeth wedi ei guradu mewn partneriaeth gyda Clwb Ifor Bach

GWIRFODDOLI YN TAFWYL
Mae dal cyfle i fod yn rhan o’n tîm gwych o wirfoddolwyr yn Tafwyl eleni! Ydych chi’n frwdfrydig, yn gyfeillgar ac eisiau bod yn rhan o brysurdeb yr ŵyl? I ymuno gyda ni, cwblhewch y ffurflen syml isod. Cwestiynau? Croeso i chi ebostio caryl@mentercaerdydd.cymruhttps://forms.gle/ut6whQfjGpJ2gA5GA