Y Gymuned

Y gallu i ymateb i anghenion lleol

Gan ystyried fod ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yn un o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) mae’n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hystyried fel rhan o unrhyw ddatblygiad cenedlaethol a lleol. 

Fel rhwydwaith o fudiadau gwirfoddol sydd wedi ffurfio a’u gwreiddio yn lleol, mae’r Mentrau Iaith yn falch o allu ymateb i anghenion eu cymunedau. Yn wahanol i sefydliadau eraill, cryfder y rhwydwaith yw ein amrywiaeth wrth wynebu proffiliau iaith cyferbyniol o ardal i ardal. 

Er mwyn sicrhau bod cymunedau sy’n draddodiadol a naturiol Gymraeg yn parhau i fod felly, mae’r Mentrau Iaith yn gweithio gydag unigolion brwdfrydig i arwain pwyllgorau Gweithredu’n Lleol. Er hyn, gyda diffyg tai fforddiadwy mewn rhai ardaloedd mae’r to ifanc yn gadael ardaloedd gwledig sy’n draddodiadol Gymraeg. Mae hyn yn achosi i broffil ieithyddol pentrefi a threfi bychain cefn gwlad newid. 

Yn ogystal ag amrywiaeth ieithyddol mae amrywiaethau economaidd, gyda thlodi dirfawr mewn rhai ardaloedd. Er bod cynlluniau ac ymgyrchoedd trechu tlodi mewn nifer o ardaloedd yn aml nid yw’r Gymraeg yn rhan ganolog o’r cynlluniau hyn. O’r herwydd, mae Cymru’n di-freintio’n dinasyddion tlotaf o gysylltiad gyda’n hiaith ac felly’n cyfyngu cyfleoedd i swyddi yn y dyfodol, yn ogystal â diwylliant a threftadaeth sydd ynghlwm â’r iaith. Felly, dylid sicrhau cydweithio fel rhan o’r cynlluniau trechu tlodi i sicrhau bod mynediad i’r Gymraeg hefyd yn rhan ganolog o raglenni’r dyfodol. 

Ein galwadau

Cynllunio 

  • Addasu Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 fel bod rhaid i asesiadau effaith iaith gael eu cynnal gan aseswyr annibynnol a di duedd ar gyfer unrhyw ddatblygiad, preifat a chyhoeddus, i sicrhau dibynadwyedd yr asesiadau hynny. Teimlwn mae gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ddylai’r cyfrifoldeb o fonitro’r prosesau hyn fod, ond yn amlwg bydd angen mwy o adnoddau arnynt i wneud hyn. 
  • Rhoi grymoedd i awdurdodau lleol i reoli’r farchnad dai yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau cartrefi i bobl leol a lleihau’r canran o ail-gartrefi 
  • Deddfu i warchod enwau Cymraeg 

Deddf Llesiant y Dyfodol a Threchu Tlodi 

  • Galw ar Lywodraeth Cymru gydweithio gyda’r mudiadau Cymraeg wrth gynllunio rhaglenni Trechu Tlodi yn Genedlaethol 
  • Sicrhau bod yr holl adrannau o fewn Llywodraeth Cymru yn deall eu cyfrifoldeb o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ystyried y Gymraeg fel rhan o’u gwaith a’u buddsoddiadau 

O brofiad: adlewyrchu proffil ieithyddol ein hardaloedd 

Mae siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o Gymru. Er hyn, mae’r raddfa’n amrywiol, sy’n cael ei adlewyrchu yng ngwaith y Mentrau Iaith lleol. Drwy gynhyrchu proffiliau iaith o’u hardaloedd mae dealltwriaeth gref gan y Mentrau Iaith o’u cymunedau a’u cynulleidfaoedd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu ym mhrosiectau amrywiol y Mentrau Iaith o ardal i ardal. Ble mae modd i Fentrau Iaith yng Ngorllewin Cymru weithio gyda chymunedau sy’n parhau i fod yn Gymraeg, nid felly yw’r sefyllfa mewn ardaloedd eraill. Un prosiect sydd wedi ei sefydlu yn siroedd Y Fflint, Wrecsam a Dinbych yw Cymunedau Dwyieithog. Diben y prosiect yw gweithio gyda grwpiau cymunedol sydd eisoes yn bodoli a dylanwadu arnynt i ddatblygu gweithgarwch Cymraeg yn eu hardaloedd ac ystyried y Gymraeg fel rhan o unrhyw ddatblygiadau newydd er mwyn adlewyrchu dwyieithrwydd eu cymunedau.