Partneriaid

Mae gan y Mentrau Iaith rwydwaith o bartneriaid lleol ledled Cymru sy’n cydweithio’n agos i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol. 

Ry’n ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gyrff cenedlaethol i rannu gwybodaeth, syniadau, profiadau ac adnoddau er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg. 

Dyma rai o’r prif bartneriaid

Dathlu'r Gymraeg

Grŵp ymbarél sydd am ddathlu llwyddiant y Gymraeg yw Dathlu'r Gymraeg ac sy'n galw am gyfres o fesurau cryfion newydd er mwyn sicrhau ei pharhad.

http://www.dathlu.cymru/

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Maent yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio.

http://gov.wales/

Urdd Gobaith Cymru

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn heddiw mae gan yr Urdd dros 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed.

http://www.urdd.cymru

S4C

S4C yw'r unig sianel deledu Cymraeg yn byd. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae'n comisiynu cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru i wneud y rhan fwyaf o'i raglenni.

s4c.cymru

Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol ac mae'n cael ei gydnabod fel prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol.

http://www.meithrin.cymru/

BBC Radio Cymru

Gorsaf radio BBC Cymru yw BBC Radio Cymru, sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn darlledu rhaglenni radio yn Gymraeg ledled Cymru ers iddi ddarlledu gyntaf ar 3 Ionawr 1977.

BBC Radio Cymru

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol yn Aberystwyth, Ceredigion yw Prifysgol Aberystwyth. Bellach, mae yno dros 7,500 o fyfyrwyr yn astudio ym mhrif ddisgyblaethau’r brifysgol, y celfyddydau, gwyddorau cymdeithasol a’r gwyddorau.

Prifysgol Aberystwyth

Cymraeg i Blant

Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor rhad ac am ddim i rieni ar gyflwyno’r Gymraeg o’r Crud

llyw.cymru/cymraeg

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw un o wyliau celfyddydol mawr y byd, sy’n dod â phobl o bob oed a chefndir ynghyd i ddathlu a mwynhau cymysgedd eclectig o gerddoriaeth, llenyddiaeth, dawns, theatr, celfyddyddau gweledol a llawer iawn mwy.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Merched y Wawr

Mae Merched y Wawr yn fudiad sy’n gwneud pob math o bethau! – Coginio, crefftau, ciniawa, teithio, chwaraeon, darlithiau, helpu elusennau, canu, cwisiau a llawer mwy. Prif nod y mudiad yw ymgyrchu dros hawliau’r iaith Gymraeg a hawliau marched.

www.merchedywawr.cymru

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cynnigir cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr o bob lefel ym mhob rhan o Gymru.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc

CFfI Cymru yw'r mudiad ieuenctid wledig mwyaf yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd i dros 5,000 o aelodau ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 155 o glybiau.

Gwefan Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc

Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG)

Mae RhAG yn gweithio i wella ac ehangu mynediad at ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.’

http://www.rhag.net/

Comisiynydd y Gymraeg

Corff annibynnol gyda’r nod o hybu a hwyluso'r defnydd o’r Gymraeg. Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau.

http://www.comisiynyddygymraeg.cymru