Ymuna â‘r teulu
Wyt ti’n frwdfrydig am y Gymraeg? Eisiau gwneud gwahaniaeth yn y gymuned?
Tyrd i fod yn rhan o deulu’r Mentrau Iaith trwy wirfoddoli gyda ni.
Awr neu ddwy, neu efallai mwy – cysyllta â ni heddiw ar post@mentrauiaith.cymru i weld sut wyt ti’n gallu helpu dy gymuned Gymraeg.
Eisiau darganfod mwy? Dyma rhai o’r ffyrdd mae pobl frwdfrydig, fel ti, yn ein helpu:
- Bod yn rhan o bwyllgor ardal trwy’r Fenter Iaith
- Gwirfoddoli mewn rhai o ddigwyddiadau mawr y Mentrau
- Bod yn rhan o fwrdd neu bwyllgor eich Menter leol
- Helpu yn rhai o glybiau’r Mentrau e.e. chwaraeon, ieuenctid, drama ayyb.
- Ymuno mewn gweithgareddau i ddysgwyr gan roi cyfle iddynt gymdeithasu gyda siaradwyr eraill
Gwirfoddolwyr y Mileniwm a’r Bagloriaeth Gymreig
Eisiau logio oriau ar gyfer cynllun gwirfoddoli neu gymunedol? Ry’ ni’n hapus i dy gefnogi.
Pwyllgor Ardal
Trwy fod yn rhan o Bwyllgorau Ardal byddi di’n helpu i ddatblygu’r gweithgareddau Cymraeg mewn ardal benodol – tref, pentref, dyffryn, bro – gan ddefnyddio system Gweithredu’n Lleol.
Beth fyddi di’n ei wneud?
- Mynychu cyfarfodydd
- Adnabod anghenion lleol
- Helpu i greu cynllun i ateb yr anghenion e.e. trefnu digwyddiadau
Mae’r cynllun Gweithredu’n Lleol wedi’i greu ar gyfer cymunedau gyda nifer uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn rhoi cyfle i bobl barhau i ddefnyddio’r Gymraeg a chadw’r niferoedd yn uchel. Mae’n bosib defnyddio’r system mewn unrhyw ardal, beth bynnag yw’r darlun ieithyddol, fel ffordd o adnabod anghenion a mynd ati i’w hateb. Mae aelod staff o’r Fenter Iaith leol wedi derbyn hyfforddiant er mwyn cefnogi dy bwyllgorau ardal newydd neu os wyt angen cefnogaeth.
Gwirfoddoli Mewn Digwyddiad
Wyt ti’n mwynhau mynd i ddigwyddiadau? Gwyliau, gorymdeithiau, gigs a mwy – mae’r Mentrau Iaith yn cynnal ac yn cefnogi pob math o weithgareddau Cymraeg trwy’r flwyddyn gyda help gwirfoddolwyr fel ti.
Rhai pethau byddi di’n gallu gwneud i helpu:
- Stiwardio digwyddiad
- Gwerthu tocynnau
- Rheoli llwyfan
- Helpu gyda’r trefnu
Pwyllgor / Bwrdd Menter
Mae’r Mentrau Iaith wedi eu sefydlu gan bobl fel ti sy’n angerddol am y Gymraeg a’u cymunedau. Mae gan bob Menter Iaith fwrdd cyfarwyddwyr sy’n arwain gwaith y fenter yn wirfoddol. Trwy fod yn rhan o’r bwrdd byddi di’n medru’n helpu i ddatblygu’r Fenter Iaith yn dy ardal di.
Trwy fod ar y bwrdd byddi di’n
- Mynychu cyfarfodydd bwrdd chwarterol
- Mynychu cyfarfod blynyddol
- Pennu cyllidebau a chynlluniau gwaith
- Creu cynllun gweithredol a chyfrannu syniadau i waith y fenter
Fel aelod o fwrdd neu bwyllgor bydd modd i ti dderbyn rôl benodol fel Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd neu arwain ar brosiectau sy’n bwysig i ti.
Byddi di’n cael cyfle i ddysgu a datblygu gan gyfarwyddwyr Mentrau Iaith eraill mewn cyfarfodydd rhanbarthol a thrwy hyfforddiant sy’n cael eu trefnu gan MIC. Fel Cadeirydd, byddi hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu Cynhadledd flynyddol MIC gyda Phrif Swyddog dy Fenter Iaith i drafod pynciau pwysig a rhwydweithio gyda’r Mentrau Iaith eraill dros Gymru.
Helpu mewn clybiau
Joio dawns, drama, cerdded, Wicipedia, coginio, barddoni, adrodd stori neu ganu? Wyt ti’n mwynhau rhannu dy sgiliau? Os oes gen ti ddiddordeb cymryd rhan blaenllaw mewn clwb – yn weinyddol neu fel arweinydd, cysyllta â ni heddiw.
Byddi di’n gallu
- Helpu’r fenter i farchnata’r clwb
- Helpu’r fenter i weinyddu’r clwb
- Helpu’r fenter i arwain y clwb
Gweithgareddau i Siaradwyr Newydd
Eisiau ein helpu i gyrraedd y miliwn? Mae’r Mentrau Iaith yn cynnal gweithgareddau i helpu siaradwyr newydd i fwynhau’r Gymraeg gan roi cyfle i bobl sy’n dysgu’r Gymraeg i gymdeithasu a defnyddio’r iaith tu allan i’r gwersi.
Sut wyt ti’n gallu helpu?
- Ymuno â grwpiau sgwrsio yn achlysurol
- Siarad a gwrando
- Cefnogi ymgyrchoedd i ddysgu Cymraeg fel diwrnod Shwmae Sumae