2023
Mae Menter Bro Ogwr yn falch i gyhoeddi y byddant yn cynnal eu Gŵyl Ogi Ogi Ogwr ym Mharc Gwledig Bryngarw ar y 1af o Orffennaf 2023! Mae’n bleser cael cydweithio ag AWEN. Bydd y prif berfformiadau yn cael eu cynnal yn Nhŷ Bryngarw gyda digonedd o weithgareddau eraill yn digwydd ledled y parc. Rhowch nodyn yn y dyddiadur, dilynwch eu tudalen Facebook am y wybodaeth ddiweddaraf a chofiwch ymuno â ni ar y diwrnod!

2022
Mae’r ŵyl fach Gymraeg hon yn mynd o nerth i nerth – llongyfarchiadau am gynnig y cyfleoedd o hwyl i bobol ardal Pen y Bont!












Menter Bro Ogwr sydd yn trefnu diwrnod lawn ym Mharc Gwledig Bryngarw – cofia fynd â dy flanced picnic!
