Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’u llwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar eleni. Caneuon Dafydd Iwan ydy’r ysbrydoliaeth, gyda gweithgareddau ar gyfer pawb ar draws y wlad.

Medd Dafydd Iwan:

“Gwych gweld bod “Yma o Hyd” wedi rhoi cymaint o asbri i dim pêl-droed Cymru a’r cefnogwyr. Mae’r Mentrau Iaith ac eraill yn adeiladu ar y cynnwrf arbennig hwn gan greu ymgyrch gyffrous sy’n mynd i roi cyfle i bawb yng Nghymru – ifanc a hŷn – i ymfalchïo yn eu gwlad ac yn y Gymraeg. Mae gweld y cynnwrf hwn yn enwedig ymhlith y bobl ifanc, yn codi fy nghalon.”

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau cerddorol cymunedol, cynnal cystadlaethau i blant a phobl ifanc, cyfres o furluniau (cadwch eich llygaid ar agor!) ac adnoddau addysgiadol hwyliog. Bydd hefyd cyfle i’r ffans ddangos eu cefnogaeth i’r tîm trwy arwyddo crysau-T fydd yn cael eu cyflwyno i’r tîm cyn dechrau’r bencampwriaeth.

Mae hyn oll yn rhan o Bartneriaeth Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru ac mae rhwydwaith y Mentrau Iaith yn un o’r partneriaid allweddol yn yr ymgyrch hon.

Esbonia Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gyffrous hon. Mae’n gyfle arbennig i ddangos bod Cymru a’r Cymry yn croesawu pawb o bob cefndir i’n cymunedau trwy ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ac wrth gwrs yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a threftadaeth.

Hoffem ddangos elfennau eraill o hanes Cymru a’r Gymraeg trwy addysgu am yr heriau a’r llwyddiannau gan annog plant a phobl ifanc yn arbennig i ymfalchïo yn eu gwlad, eu hiaith a’u cymunedau. Byddwn ni’n dathlu mewn ffordd gyfoes a hwyliog sy’n cynnwys pawb.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Mentrau Iaith drefnu dathliadau mawr pêl-droed. Enillodd Osian Jones o Aberaeron gystadleuaeth ‘Gwlad y Chants’ yn ystod y Euros llynedd gyda’i “Sea Chanty y Wal Goch”. Cafodd Osian ddiwrnod anhygoel yn mwynhau ei wobr, sef gwylio un o ymarferion diweddaraf tîm pêl-droed Cymru a chwrdd â’r tîm i gyd.

Medd Eryl Jones, tad Osian:

“Roedd Osian wrth ei fodd cael ennill cystadleuaeth creu ‘chant’ Gymraeg ar gyfer cystadleuaeth yr Ewros, ac roedd gwobr o cael gweld ei hoff dîm – Cymru – yn ymarfer yn hufen ar y gacen!

Cafodd gwrdd gyda rhai o’i arwyr pêl droed – fe gafodd brofiad bythgofiadwy.”

Bydd mwy o fanylion am y gweithgareddau ar wefan Mentrau Iaith Cymru www.mentrauiaith.cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol.