Mae Hapus i Siarad yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned trwy gael sgwrs mewn busnesau bach sy’n “hapus i siarad” Cymraeg gyda nhw. Rydym yn trefnu’r cynllun ar y cyd â´r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n yn fwy na llefydd i brynu pethau. Maen nhw’n llefydd i bobl gyfarfod ei gilydd, cael sgwrs a bod yn rhan o’r gymuned – lleoliadau gwych i ymarfer siarad Cymraeg.
Mae busnesau lleol, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun, wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!



Sut mae’n gweithio?
Mae’r dysgwyr yn derbyn cerdyn teyrngarwch gan eu tiwtoriaid a’r Mentrau Iaith lleol i gasglu stamp neu lofnod gan 3 busnes lle maent wedi cael sgwrs yn Gymraeg. Bydd y cardiau yn mynd i mewn i gystadleuaeth am benwythnos preswyl mewn un o’r canolfannau dysgu Cymraeg yng Nghymru.
Mae cyfle i’r dysgwyr anfon eu cardiau tan 17 Gorffennaf 2026 trwy e-bost at post@mentrauiaith.cymru neu eu cyflwyno i’w tiwtoriaid.
O’r holl gardiau sy’n cael eu cyflwyno bydd yr enillydd yn cael eu tynnu o’r het a’u cyhoeddi mewn digwyddiad ar 3 Awst yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Gallwch weld sut mae’n gweithio yn y fideo byr yma.
Yn 2024-25 Sue Vanstone oedd enillydd y gystadleuaeth. Aeth Sue i Nant Gwrtheyrn i fwynhau penwythnos o ddysgu a siarad Cymraeg.
“Diolch i ‘Hapus i Siarad’ am y profiad gwych i fynd i Nant Gwrtheyrn. Mae lle bendigedig i ymarfer Cymraeg, hefyd y cyfle i drïo celf, yoga a dawnsio gwerin yn Gymraeg.”
Bore Hapus i Siarad
Lansiwyd y cynllun eleni gyda Bore Hapus i Siarad ar 15 Tachwedd mewn 9 tref yng Nghymru. Roedd yn gyfle i 94 o ddysgwyr fynd o gwmpas y busnesau bach yn y 9 tref a siarad Cymraeg.

A dyma flas ar Hapus i Siarad


















Pwy ydy’r busnesau a lle maen nhw?
Dyma’r busnesau ar draws Cymru sy’n “Hapus i Siarad”. Os ydych chi’n fusnes sy’n awyddus i gymryd rhan neu os ydych chi’n nabod busnes fyddai’n gallu cymryd rhan, cysylltwch â’ch Menter Iaith leol neu trwy e-bost at post@mentrauiaith.cymru.
Gogledd Orllewin
Mae mae llawer o fusnesau mewn llawer o drefi yng Ngwynedd yn Hapus i Siarad. Gallwch chi weld yr holl fusnesau yng Ngwynedd ar wefan Menter Iaith Gwynedd.



Gogledd Ddwyrain
Gallwch weld holl fusnesau yn ardal Fflint a Wrecsam ar wefan y Fenter Iaith.


Powys, Ceredigion a Sir Gâr









Sir Benfro


Gwent


Morgannwg



Bae Abertawe


Caerdydd a’r Fro



