Croeso i’r Gymraeg

Mae’n bwysig rhoi croeso cynnes i bawb fedru mwynhau’r Gymraeg fel rhan o’n cymunedau 

Mae nifer ohonom wedi gwerthfawrogi ein mannau awyr agored a’n byd natur bendigedig yn ystod y cyfnod diweddar, a rhai yn penderfynu symud i’n hardaloedd gwledig ac arfordirol i wneud y mwyaf o’r awyr iach. 

Cymunedau Cymraeg Croesawgar 

Mae ‘cymuned’ yn air pwysig yma yng Nghymru, p’un ai mewn tref arfordirol brysur, cwm ôl-ddiwydiannol neu bentref gwledig tawel, gan ddod â phawb ynghyd. Mae gan y Gymraeg ran fawr mewn llawer o gymunedau – yn y maes chwarae a’r ystafell ddosbarth, yn enwau ein mynyddoedd, llynnoedd, strydoedd a thai ac yn y dafarn, siop a neuadd blwyf leol. Ond, heb gyflwyno a chroesawu cymdogion newydd i’r Gymraeg, gall iaith y gymuned newid. 

Felly, mae’n bwysig ein bod ni gyd, pob un ohonom, yn croesawu pawb o fewn ein cymunedau i’n hiaith ni, i’r Gymraeg. Sut elli di wneud hynny? 

Gwna’r Pethau Bychain 

Gelli arwain drwy esiampl drwy wneud pethau bach pob dydd yn Gymraeg fel archebu ‘peint o gwrw’ yn nhafarn y pentref yn hytrach na ‘pint of beer’, newid iaith y ‘self check out’ yn yr archfarchnad i’r Gymraeg neu gyfarch dy gymdogion gyda ‘shwmae’ wrth fynd heibio. Mae’n bosib gall y pethau bach rwyt ti’n ei wneud ddylanwadu ar eraill, felly cer amdani drwy wneud un newid bach heddiw. 

Enwau lleoedd 

Yn ogystal â mynyddoedd, llynnoedd, pentrefi a strydoedd mae gan rai o’n tai a’n ffermydd enwau Cymraeg sy’n rhan bwysig o hanes, diwydiant a diwylliant ein hardaloedd. Mae modd gwarchod enw dy dŷ rhag gael ei newid gan brynwyr posib fel rhan o’r cynllun Diogelwn, Cymdeithas yr Iaith. Clicia yma i ddarganfod mwy. Gall y cam bach hwn helpu i warchod hunaniaeth a threftadaeth Gymraeg ein hardaloedd. Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru hefyd yn gweithio i warchod, hybu a chodi ymwybyddiaeth enwau hanesyddol lleoedd Cymru. 

Cyflwyno’r Gymraeg 

Mae sawl ffordd y gall rhywun ddysgu’r Gymraeg trwy wahanol ddarparwyr. Gelli gyfeirio at rai ohonynt yma. Mae hefyd modd i ti fod yn ‘athro’ anffurfiol drwy gyflwyno ambell air Cymraeg i dy gymdogion newydd o bryd i’w gilydd. 

Beth am wahodd dy gymydog i ddigwyddiad cymunedol i gael profiad o’r iaith yn cael ei mwynhau? 

Beth sy’n cael ei wneud? 

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio gyda amryw o bartneriaid  er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau fel iaith cymunedol yr ardaloedd poblogaidd arfordirol a gwledig. Dyma rai o’r pethau ry’n ni’n eu gwneud: 

  • Pecynnau croeso…. 
  • Ymwybyddiaeth iaith…. 
  • Digwyddiadau cymunedol…. 
  • Gwirfoddoli – mae cynllun cyffrous ar y gweill yn cynnwys partneriaid “Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022″er mwyn cael gwybod mwy am gyfeloedd posib lleol i ti, anfon ebost at post@mentrauiaith.cymru

Ein galwadau 

Mae’r Mentrau Iaith yn galw am fwy o rymoedd i reoli’r farchnad dai yn yr ardaloedd hyn er mwyn gwarchod yr iaith rhag bygythiadau pellach. Gelli di ddarllen mwy amdanynt yma.