Eisteddfod Genedlaethol

Gŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop yw’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n dathlu cerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth, y celfyddydau a’r iaith Gymraeg am wythnos bob mis Awst. Mae gan yr Eisteddfod hanes hir gyda hen draddodiadau ac mae wedi datblygu i fod yn ŵyl gyfoes i bawb ei mwynhau.

Mae mwy wybodaeth am hanes yr Eisteddfod, o’r un gyntaf yn 1176 hyd heddiw ar gael gan y Llyfrgell Genedlaethol ac ar Wicipedia.

Ac mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ei hun lawer o wybodaeth am ei hanes (yr Eisteddfod gyfoes gyntaf), am yr Eisteddfodau sydd wedi bod a’r rhai sydd am ddod.