Yr Economi Leol

Creu gwaith a chadw’r bunt yn lleol

Fel rhan o Thema 3 Strategaeth Cymraeg 2050 mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd seilwaith a chyd-destun er mwyn sicrhau gwaith i bobl leol allu defnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd a chyfrannu i greu cymunedau ffyniannus. Ymysg prosiectau masnachol mae’r Mentrau Iaith wedi sefydlu mae caffis, siopau, canolfannau, cynlluniau hyfforddiant swyddi, cwmnïau cyfieithu, meithrinfeydd a chynlluniau gofal plant – gwasanaethau sydd yn cyfrannu tuag at economi sylfaenol cymunedau Cymru. 

Drwy fentergarwch, mae’r Mentrau Iaith lleol wedi gallu denu bron £4.5 miliwn o gyllid ar ben grantiau’r Llywodraeth yn 2019/20 i’w cymunedau gan lwyddo i ennill grantiau, gweithio gyda phartneriaid, neu redeg cynlluniau masnachol. Mae’r graffiau isod yn dangos mae canran eithaf bychan, llai na traean, o swyddi’r Mentrau Iaith ariennir gan Lywodraeth Cymru. Drwy ddenu arian o ffynonellau eraill mae’r Mentrau Iaith wedi gallu creu 254 swydd yn ychwanegol i’r swyddi sy’n cael eu hariannu gan grant Llywodraeth Cymru a phrosiectau cenedlaethol. Wrth fuddsoddi elw nôl mewn i brosiectau cymunedol mae’r Mentrau Iaith yn cyfrannu tuag at y farchnad lafur Gymraeg, rhoi cyfle i bobl defnyddio’r Gymraeg ym myd gwaith a lleihau allfudiad pobl ifanc o gymunedau gwledig i drefi a dinasoedd. 

Ein galwadau 

Marchnad Lafur 

  • Creu rhwydwaith o Swyddogion Mentrau Cymdeithasol i sefydlu gweithleoedd cyfrwng Cymraeg i bobl leol, wedi ariannu gan adran yr Economi. 
  • Ers 2017, mae elfen lleol o brosiect Helo Blod yn cael ei redeg gan y Mentrau Iaith er mwyn rhoi cyngor a chefnogaeth ar ddefnyddio’r Gymraeg i fusnesau bychain. Mae’n bwysig bod yr elfen hon o’r prosiect yn parhau er mwyn rhoi’r cyswllt lleol i fusnesau a chyngor wyneb yn wyneb iddynt. 
  • Gwell cynllunio a chydlynu rhwng yr angen am y Gymraeg mewn swyddi a’r byd addysg. Ni fydd modd cyflawni strategaethau megis “Cymraeg 2050” a “Mwy na geiriau”, na gweithredu’r Safonau, os nad oes gweithlu yn cael ei chynllunio a’i chreu 

Buddsoddi 

  • Ers cyhoeddi’r strategaeth yn 2017 nid yw’r Mentrau Iaith wedi gweld buddsoddiad ychwanegol er mwyn gweithio tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.  Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol a chynnig cyflog teg i weithwyr sy’n adlewyrchu chwyddiant mae’r Mentrau Iaith yn gofyn i gynyddu isafswm grant pob Menter Iaith i £100,000 y flwyddyn, a chwyddiant i’r Mentrau Iaith hynny sydd eisoes yn derbyn £100,000 neu fwy. Bydd hyn yn galluogi i bob Menter Iaith gyflogi 3 aelod staff a rhedeg cwmni neu elusen ffyniannus sy’n gallu mynd ar ôl buddsoddiadau a chreu swyddi pellach.   

O brofiad: llenwi’r bwlch Cymraeg 

Un o gynlluniau sy’n cynhyrchu’r mwyaf o swyddi cyfrwng Cymraeg gan y rhwydwaith yw’r cynlluniau gofal plant yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae’r cynlluniau gan saith Menter Iaith yn y rhanbarth yn cael eu hariannu yn rhannol gan awdurdodau lleol ond hefyd yn brosiectau masnachol sy’n cynhyrchu refeniw. Mae’r refeniw hwn yn cael ei ail-fuddsoddi i gynnal mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ardaloedd mwyaf Saesnig o’r wlad. 

Mae dros 150 o unigolion yn cael eu cyflogi gan Fenter Iaith, neu gan gwmni hyd braich i Fenter Iaith, yn y sector gofal plant yn unig. Gyda chyfuniad o glybiau brecwast, gofal cofleidiol, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, mae’r Mentrau Iaith wedi adnabod ac ateb gwir angen mewn cymunedau i ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg.