Dros y flwyddyn nesaf (2022-23) bydd Menter Iaith Abertawe yn gwahodd cyfres o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru i amrywiaeth o leoliadau eiconig ar draws dinas Abertawe.

Bydd y sesiynau byw arbennig yma, wedi recordio mewn partneriaeth â Ffoto Nant a Stiwdio Sain, yn cynnwys artistiaid yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous. Bwriad y sesiynau yw cyflwyno’r iaith Gymraeg i lefydd newydd a gwahanol, yn ogystal â chynnig platfform ychwanegol i artistiaid newydd. 

Bydd y lleoliadau yma’n cynnwys yr Oriel Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Derricks Music, yr Oriel Mission, The Bunkhouse, Amgueddfa’r Glannau, yr Oriel Elysium, yn ogystal â lleoliad y Fenter – Tŷ Tawe.

Mae’r ddwy sesiwn gyntaf yn cynnwys Ynys yn fyw o Dŷ Tawe, ac Eädyth x Izzy Rabey yn fyw o’r Oriel Glynn Vivian ar gael i’w gwylio nawr ar yr ap AM Cymru ac ar sianel YouTube Menter Iaith Abertawe

Bitw yn Derrick’s Music, Abertawe
Eädyth ac Izzy yn Oriel y Glyn Vivian, Abertawe

Tŷ Tawe yn ail lansio, Menter Iaith Abertawe

Beth sydd ‘mlaen yn Ty Tawe a phrynu tocynnau yma!

Fe wnaeth y lleoliad cerddoriaeth poblogaidd Tŷ Tawe yn Abertawe, ail-lansio yn ystod mis Ebrill gyda chyfres o gigs yn dathlu cerddoriaeth gyfoes iaith Gymraeg.

Wedi ei agor yn wreiddiol yn 1987, mae Canolfan Cymraeg Tŷ Tawe yn gartref i siop lyfrau, caffi, ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd, yn ogystal â lleoliad perfformio hyblyg. Yn dilyn cyfres o gigs acwstig yn y bar, ail-agorodd y brif neuadd ym mis Hydref 2021 wedi gwaith adnewyddu sylweddol ar yr adeilad. Mae’r gwaith diweddaraf sydd newydd ei gwblhau gyda chefnogaeth Cronfa Cyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol wedi ychwanegu offer sain a golau newydd, gan drawsnewid y neuadd yn lleoliad cyfoes ar gyfer theatr, comedi, llenyddiaeth, a cherddoriaeth o bob genre.

Mae’r gyfres yma o gigs yn dathlu’r lleoliad yn dechrau ar nos Wener y 29ain o Ebrill gyda pherfformiadau gan Mark Roberts, cyd-sylfaenydd y bandiau eiconig Y Cyrff a Catatonia sydd nawr yn rhyddhau recordiau ardderchog fel MR, a SYBS, y band post-punk cyffrous sy’n rhyddhau ar Recordiau Libertino.

Llun: celf calon

Yn gorffen y noson ar nos Sadwrn y 30ain o Ebrill bydd y cerddor pop electronig, cynhyrchydd, ac artist, Ani Glass. Bydd Ani yn chwarae caneuon o’i record gyntaf anhygoel “Mirores”, yn ogystal â rhai o’r record newydd. Yn cefnogi Ani mae Eädyth, yr artist pop electronig sydd wedi rhyddhau cyfres o senglau dwyieithog gwych dros y blynyddoedd diwethaf, a Bitw, prosiect unigol Gruff ab Arwel sydd wedi chwarae gydag artistiaid amrywiol fel Gruff Rhys a Eleanor Friedberger. Mae’r gig nos Sadwrn hefyd yn cynnwys “Sesiwn Soundcheck” mewn cydweithrediad â’r Gymuned Lleoliadau Annibynnol. Bydd grŵp o bobl ifanc yn cael eu croesawu i’r lleoliad cyn i’r drysau agor i wylio’r soundcheck, cwrdd â’r artistiaid a’r staff, a dysgu mwy am yrfaoedd posib yn y diwydiant cerddoriaeth.

Yn cwblhau’r gyfres mae noson yng nghwmni N’famady Kouyaté a Danielle Lewis ar nos Wener y 6ed o Fai. Mae N’famady yn dychwelyd i Abertawe am set lawn ar ôl ei berfformiad fel rhan o’r Ŵyl Ymylol yn 2021, a bydd yn perfformio caneuon o’r EP “Aros i Fi Yna” a llawer mwy. Wedi rhyddhau ei record gyntaf “Dreaming In Slow Motion” yn ystod 2021, bydd Danielle yn chwarae set agoriadol dwyieithog arbennig.

Mae’r tocynnau olaf ond yn £5 diolch i gefnogaeth Cyngor Abertawe a’r Gronfa Adfer Diwylliannol, ac ar gael nawr trwy TicketSource, Derricks Music, neu Siop Tŷ Tawe.

Unrhyw ymholiadau at swyddfa@menterabertawe.org