Roedd Gŵyl Fach y Fro, a drefnir gan Fenter Iaith Bro Morgannwg, yn ôl ar Ynys y Barri fis Mai ar ôl dwy flynedd o ohirio’r ŵyl.
Dyma beth lluniau o Ŵyl Fach y Fro 2022 – roeddech wych!












Newyddion gyhoeddwyd dechrau mis Mai 2022:
Mae Gŵyl Fach y Fro yn gyffrous i gyhoeddi’r bandiau fydd yn cymryd rhan eleni. Ymysg y rhai fydd yn perfformio bydd MR, Huw Chiswell, Morgan Elwy, Lily Beau, Bwncath a Hana Lili. Bydd yr ŵyl yn cynnwys dau lwyfan sef y Prif Lwyfan a Glanfa Gwynfor, sef llwyfan i ysgolion a grwpiau cymunedol. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys gweithgareddau a gweithdai i blant, stondinau crefft a bwyd a diod.
Meddai Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg;
“Mae Menter Bro Morgannwg yn hynod o gyffrous i fod yn cynnal yr ŵyl unwaith eto eleni ger lan y môr yn y Barri. Edrychwn ymalen i groesawu rhai o fandiau gorau Cymru.
Mae Gŵyl Fach y Fro yn rhan bwysig iawn o galendr digwyddiadau Cymraeg Bro Morgannwg ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.”
Mae’r ŵyl hefyd wedi derbyn cyllid ychwanegol eleni gan Cyngor Celfyddydau Cymru i ariannu prosiect celfyddydol newydd. Mae’r prosiect yma yn canolbwyntio ar dair elfen, sef Dawns, Celf a Cerddoriaeth gan gydweithio gyda artistiaid llawrydd ac ysgolion lleol i greu darnau o waith y gellid i’w perfformio a’u harddangos yn rhan o’r ŵyl.
Bydd y cerddor Mei Gwynedd yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc o Ysgol Bro Morgannwg er mwyn creu band. Mae’r artist, Rhys Padarn yn mynd i weithio gyda Ysgolion Cynradd y Fro i greu murlun, ac mae’r cwmni Dawns ‘DanceFit Wales’ yn mynd i weithio gyda disgyblion blwyddyn 7-9, Ysgol Bro Morgannwg ar perfformiad dawns. Bydd perfformiad arbennig yn yr Ŵyl i arddangos y gwaith sy’n cael ei greu yn rhan o’r gweithdai yma.
Am fwy o wybodaeth ac i weld amserlen y digwyddiadau edrychwch allan am gyhoeddiadau ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Bro Morgannwg a Gŵyl Fach y Fro.
