Mentrau Iaith Cymru

Pwy yw Mentrau Iaith Cymru? 

Mudiad Cenedlaethol yw Mentrau Iaith Cymru (MIC) sy’n cefnogi rhwydwaith o 22 Menter Iaith ledled Cymru. 

Mae MIC yn cefnogi’r rhwydwaith o Mentrau Iaith trwy amryw o weithgareddau a meysydd, fel marchnata a chyfathrebu, hyfforddiant a dylanwadu er budd y Gymraeg.  Mae rhannu gwybodaeth, profiadau, syniadau ac adnoddau rhwng y Mentrau Iaith a phartneriaid eraill ar draws Cymru yn ein helpu i gyd hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi ein cymunedau  

Ry’n ni’n datblygu prosiectau cenedlaethol a rhanbarthol ar y cyd â’r Mentrau Iaith lleol a chyrff eraill. Clicia ar ein tudalen Newyddion i gael gwybod mwy. 

Yn 2018 cafodd MIC Nod Ansawdd PQASSO Lefel 1, sy’n cydnabod trefniadau llywodraethu a rheoli effeithiol mewn mudiadau trydydd sector. Mae mwy o wybodaeth yma. 

Cefnogi’r Mentrau Iaith… 

Ein prif nod yw cefnogi’r Mentrau Iaith, eu swyddogion a’u pwyllgorau. Ry’n ni’n gwneud hyn trwy: 

  • Ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, rhannu gwybodaeth, syniadau a chydweithio trwy amryw o gyfarfodydd, cynadleddau a chyfleoedd hyfforddiant 
  • Dylanwadu er budd y Gymraeg trwy ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus ar ran y Mentrau Iaith 
  • Datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, fel Prosiect Apiau Magi Ann a Chynllun Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg 
  • Cynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith. 

Rhannu 

Mae rhannu syniadau a thrafod yn bwysig i ddatblygiad y Mentrau Iaith. Ry’n ni’n creu cyfleoedd i staff ein rhwydwaith gymdeithasu a chydweithio mewn cynadleddau a chyfarfodydd yn gyson trwy’r flwyddyn. 

Hyfforddiant… 

 O amddiffyn plant i reoli ac arwain, o gynllunio ieithyddol i ddatblygu cymunedol – mae ein staff yn datblygu siliau yn gyson diolch i raglen hyfforddiant MIC. 

Ry’n ni’n defnyddio sgiliau swyddogion profiadol i arwain sesiynau hyfforddiant ac yn cyd-weithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Hyrwyddo 

Ry’n ni am i gymaint o bobl a phosib wybod am waith y Mentrau Iaith a mwynhau defnyddio’r Gymraeg. Felly mae hyrwyddo gweithgareddau’r Mentrau Iaith lleol, creu ymgyrchoedd cenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan mawr o waith MIC. 

Dilyna ni ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf am waith y Mentrau Iaith a phrosiectau cyffrous eraill sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.