Y Mentrau Iaith

Mae’r Mentrau Iaith yn dy helpu i fyw, dysgu a mwynhau yn y Gymraeg 

Y Mentrau Iaith 

Cafodd y Fenter Iaith gyntaf ei sefydlu yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi ffurfio Mentrau Iaith eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru. 

Fel Mentrau Iaith, ry’n ni’n creu cyfleoedd i bawb ddefnyddio’r Gymraeg yn ein bywydau pob dydd ac yn ein cymunedau lleol. 

Ein hanes

Gyda phwy ydyn ni’n gweithio? 

Mae’r Mentrau Iaith i bawb! 

I deuluoedd: Ry’n ni’n cynnal clybiau rhiant a phlentyn, dyddiau hwyl i deuluoedd a chyfleoedd i blant bach a’u rhieni glywed a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd adeiladol a chyfeillgar. 

I blant: Ry’n ni’n awyddus i blant ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth, boed mewn clybiau chwaraeon, ar apiau neu mewn digwyddiadau gan roi’r hyder iddynt gymdeithasu’n Gymraeg. 

I’r ifanc: Mae’r Mentrau Iaith yn cydweithio gyda’r Urdd mewn sawl ardal i sicrhau bod clybiau ieuenctid a chyfleoedd cymdeithasu ar gael i bobl ifanc dros Gymru fedru defnyddio a chlywed y Gymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. 

I siaradwyr newydd: Drwy gynnal gweithgareddau, ry’n ni’n awyddus i roi cyfle i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddod yn rhan o’n cymunedau Cymraeg. 

I’r gymuned: Cymuned sy’n cynnal iaith felly ry’n ni’n gweithio’n agos gyda’n cymunedau dros Gymru i greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg trwy greu swyddi, cefnogi mentrau newydd, cynnal digwyddiadau a mwy.