Cwis llawn gwybodaeth a llawn hwyl ar gyfer blwyddyn 6 ysgolion Cymru ydy Cwis Dim Clem. Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cynnal y Cwis hwn yn genedlaethol ers 2021 gyda’r amgylchiadau (Covid-19) wedi ein gorfodi i gwrdd yn rhithiol.

Isod cei syniad o’r hyn ddigwyddodd eleni (2022) – diddordeb cymryd rhan? Cysyllta gyda dy Fenter Iaith.

Cwis Dim Clem – a’r enillwyr yw…

Mae 188 o ysgolion ar draws Cymru gyfan wedi cystadlu yn Cwis Dim Clem y Mentrau Iaith eleni, a dros 3,500 o blant wedi bod yn ateb cwestiynau heriol a hwyliog mewn sawl rownd cyn gallu ennill lle yn y rownd derfynol gynhaliwyd ar Fawrth 28ain, 2022. 

Mae Cwis Dim Clem yn gwis Cymraeg i blant blynyddoedd 6 ysgolion cynradd Cymru sydd fel rheol yn digwydd wyneb yn wyneb, ond am yr ail dro wedi gorfod cynnal yn rhithiol eleni. Mae’r Mentrau Iaith wedi bod yn cynnal y Cwis o fewn eu hardaloedd ers cyn y Nadolig, a phawb yn ymgeisio am gyfle i gystadlu yn y rownd genedlaethol. Cwis feistri y rownd derfynol genedlaethol oedd Mari Lovgreen, cyflwynwraig boblogaidd ar S4C, ac Owain Williams, cyflwynydd egnïol Stwnsh Sadwrn. Dywed Mari: 

“Roedd hi mor hyfryd gallu cynnal y Cwis hwn eleni a chael gweld y plant yn eu timoedd ar y sgrin. Roedd egni y plant bron i’w deimlo, a’u brwdfrydedd yn cymryd rhan yn amlwg iawn. Roedd ‘na sawl cwestiwn ro’n i’n cael trafferth eu hateb, ond ro’dd y plant fel petai wedi cael hwyl dda iawn arni!” 

Daeth 6 ysgol ynghyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd dros dechnoleg Teams ar fore’r 28ain o Fawrth – gyda dwy ysgol yn cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru o Lanfairpwll ar Ynys Môn ac o Drefeglwys yn Maldwyn; dwy ysgol o’r de orllewin sef Teilo Sant, Llandeilo ac ysgol gynradd Aberaeron; ac yna dwy ysgol o’r de ddwyrain – y pencampwyr cyfredol o Ysgol Pen Cae, Caerdydd a Cynwyd Sant o Faesteg. 

Roeddynt i gyd ar dân eisiau curo a phrofi eu hunain fel y tîm mwyaf peniog yng Nghymru, a’r tîm lwyddodd i gael y mwyaf o bwyntiau oedd Ysgol Gynradd Aberaeron, Ceredigion. Meddai un aelod o’r tîm:  

“Fe wnaethon ni fwynhau sialens y cwis yn fawr iawn. Ro’dd hi’n grêt gweld pawb ar y sgrîn a gallu sgwrsio gyda Mari ac Owain. Mae’r holl brofiad wedi bod yn wych”. 

Dywed Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cered, Menter Iaith Ceredigion: 

“Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Aberaeron gyrraedd mor bell yn y gystadleuaeth, ac mae ei hennill mewn cystadleuaeth oedd mor agos yn hufen ar y gacen. Dwi’n hynod o falch dros y plant sydd wedi bod mor frwd dros y cyfnod cystadlu”.  

Dywed Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru; 

“Mae Cwis Dim Clem yn gyfle gwych i blant gael mwynhau’r iaith Gymraeg a theimlo cyffro cystadleuaeth mewn ffordd ysgafn fel hyn. Ry’n ni’n awyddus bod plant blynyddoedd 6 yn magu perthynas gadarnhaol â’r Gymraeg wrth iddynt ddod i adnabod ffrindiau a chyfoedion newydd eu hysgolion uwchradd, gan roi’r hyder iddynt barhau i siarad yr iaith ar iard yr ‘ysgol fowr’ fis Medi.” 

Cynhaliwyd rownd genedlaethol y Cwis am y tro cyntaf erioed ar Kahoot – system interactif o ateb cwestiynau, ac mae’r Cwis ar gael i bawb – o bob oed – gael tro ar ateb y cwestiynau drwy ddilyn y ddolen: https://kahoot.it/challenge/0632346?challenge-id=13a6b68c-8568-4302-a6c6-797bcb4cfa53_1648472592539 

Game PIN: 0632346 

Yr ysgolion yn y rownd derfynol oedd: 

  • Ysgol Pen Cae, Caerdydd 
  • Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg 
  • Ysgol Aberaeron 
  • Ysgol Teilo Sant, Llandeilo 
  • Ysgol Llanfairpwll 
  • Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys