Hwrê – Gŵyl Maldwyn yn ei ôl!! Mynna dy docyn rwan!

Pwy fyddai’n meddwl byddai cymaint o hwyl ar gael mewn sied??

Yn draddodiadol mae Gŵyl Maldwyn wedi bod yn cael ei chynnal yn nhafarn y Cann Office Llangadfan ym Mhowys, a hynny ers 2004 yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod 2003. Mae’r ŵyl yn digwydd eto yn 2022 ar ôl cwpl o flynyddoedd o saib.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal 24-25 Mehefin eleni, mewn lleoliad newydd cyffrous – Gwaenynog, Dolanog. Bydd posib dod â charafan neu babell, ac mae opsiynau glampio hefyd.
Dau o gyn enillwyr teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar, Bwncath a Candelas, fydd prif atyniadau nos Wener yr ŵyl eleni, efo Morgan Elwy a’r band yn cychwyn y noson! 

Dydd Sadwrn wedyn fydd Geraint Lovgreen yn dilyn Ymryson y Beirdd yn y prynhawn a wedyn Kizzy Crawford, Aeron Pugh, Yws Gwynedd a Tecwyn Ifan yn perfformio gyda’r nos. 

Fydd na hefyd Bentre Plant yn yr Ŵyl – cae yn cynnig adloniant i blant mawr a bach!
Tocynnau ar werth o Home – Gwyl Maldwyn

Tocynau rhatach / early bird tan ddiwedd Mai:

Tocyn penwythnos oedolyn – £25

Tocyn oedolyn dydd Gwener neu Sadwrn yn unig – £15

Tocyn plentyn dydd (11-16 oed) £5

Plant Cynradd am ddim