Bydd Chwefror 10fed yn atseinio o gerddoriaeth ar hyd a lled Cymru a bydd y Mentrau Iaith yn ei chanol hi yn dathlu Dydd Miwsig Cymru.  

Mor braf yw gallu cynnal gigs a chyngherddau ac i gael plant o bob oed fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar eu stepen drws, ac mae’r Mentrau Iaith yn gymorth i hyrwyddo hyn. Bydd rhywbeth at ddant pawb gyda chyfle i fynychu disgos Cymraeg, ymweliadau gan fandiau Cymraeg mewn ysgolion a gigs gyda’r nos.  

Ar ben hyn mae ambell i Fenter yn cynnal gweithdai cyfansoddi a cwestiynau ac ateb gydag artistiaid amrywiol. Medd Elen Hughes, prif swyddog ar Fenter Iaith Môn: 

“Mae Mentrau Iaith ar hyd a lled y wlad yn cynnal digwyddiadau i ddathlu Dydd Miwsig Cymru ac mi yda ni’n falch o allu cefnogi’r digwyddiad yma fel Menter Iaith yn Ynys Môn. Fel Menter sydd yn trefnu digwyddiadau o amgylch cerddoriaeth yn aml, boed hyn yn wyliau fel Gŵyl Cefni neu’n sesiynau Bocswn gyda phobl ifanc yr ardal, mi yda ni’n ymwybodol iawn pa mor fanteisiol ydi cerddoriaeth wrth ddod a phobl at ei gilydd i gymdeithasu yn Gymraeg.” 

Gŵyl Cefni, Ynys Môn

Yn ychwanegol at hyn, bydd nifer o Fentrau yn rhannu play lists o gerddoriaeth Gymraeg a cwisys hwyliog fel hwn gan Fenter Iaith Sir Benfro: https://kahoot.it/challenge/5cbb57c2-2cfe-4335-95e8-088f0aa6f051_1675434628729 (dod i ben yn fuan)

Medd Heledd ap Gwynfor, cydlynydd cyfathrebu gyda Mentrau Iaith Cymru: 

“Mae cerddoriaeth yn dylanwadu’n fawr ar bobol a dyn ni’n gwybod o fewn y Mentrau bod nifer yn cymryd diddordeb yn yr iaith Gymraeg oherwydd eu hoffter o fand neu artist unigol sydd yn canu yn y Gymraeg. Mae’n holl bwysig ceisio denu mwy o bobol at gerddoriaeth Gymraeg a dangos i bawb pa mor gyfoes ydy’r iaith – a’u bod yn ei fwynhau wrth gwrs.”  

Nid ar gyfer un diwrnod yn unig mae cerddoriaeth wrth gwrs, a bydd y Mentrau Iaith yn parhau i gynnig a threfnu adloniant o gerddoriaeth Gymraeg drwy gydol y flwyddyn sydd yn cynnwys cyfres o gigs gyda’r band HMS Morris yn ystod y gwanwyn eleni.  

Er mwyn darganfod beth sydd ymlaen yn eich ardal chi, cysylltwch gyda’r Fenter Iaith leol i chi – gwybodaeth ar ba Fenter I’w gweld yma: https://mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter/