Cystadleuaeth Dylunio Het Bwced

A’r enillydd yw …

Penny Grice o Gaerfyrddin yw enillydd y gystadleuaeth. Zakia Johnson o Rydaman, Lili Wen o Ruthun ac Ifan Midwood o Forfa Nefyn ydy’r 3 arall ddaeth i’r brig.

Meddai Geraint Løvgreen yn ei feirniadaeth:

Dan ni’n hoff iawn o’r lliwiau a geiriau ‘Yma o Hyd’ yn mynd o gwmpas y band canol. Ac mae’r galon efo bathodyn Cymru yng nghanol y bathodyn yn wych hefyd. Roedd hi’n gystadleuaeth safonol iawn. Does ‘na ddim prinder dylunwyr talentog ifanc yng Nghymru. Dan ni wrth ein bodd efo’r 4 het. Basai pob un ohonyn nhw’n gallu ennill a baswn i’n hapus iawn.

Fe wnaeth dros 5,400 o blant gymryd rhan yng nghystadleuaeth dylunio het bwced y Mentrau Iaith. Rydym yn diolch i’r plant i gyd, eu rhieni a’u hysgolion am gystadlu.

Sioned Dafydd, Geraint Løvgreen a Tim Williams (Spirit of ’58) oedd y beirniaid.

“Dy’n ni wedi cael ein sbwylio gan gymaint o hetiau bwced sy’ wedi cael eu dylunio! Ni wedi cael bach o waith i benderfynu pa rai oedd y rhai gorau”, medd Sioned Dafydd.

Bydd Penny a’i dosbarth cyfan yn derbyn set o hetiau bwced gyda’i dyluniad arnynt. Ac fel bonws mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwahodd Penny i wylio sesiwn hyfforddiant tîm pêl-droed Cymru yn y gwanwyn.

Bydd Zakia, Lili Wen ac Ifan yn derbyn tocyn anrheg o siop Spirit of ’58 fel gwobr.

Bydd y Mentrau Iaith yn cynhyrchu cyfres o fideos gyda mwy o hetiau bwced i ddangos yr amrywiaeth eang o ddyluniadau ac i ddiolch unwaith eto i’r plant oedd mor frwdfrydig yn cymryd rhan. Rydym yn awyddus i’r plant gael cyfle gweld eu hetiau wedi’u harddangos.