Llun o Sion Corn sydd yn siarad Cymraeg! Am fwy o wybodaeth am y Sion Corn arbennig hwn, cer i: https://www.facebook.com/sioncorncymru
Gwefan: https://sioncorncymru.wordpress.com/

Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn galw allan i gael gweld ble mae’r holl lefydd y bydd Siôn Corn yn siarad Cymraeg y gaeaf hwn.  

Mae ymweliad â groto Siôn Corn wedi hen ymsefydlu fel rhan o galendr blynyddol cyfnod y Nadolig i holl blant Cymru, gyda’r plant gan fwyaf, wrth eu boddau cael eistedd ar lin neu gerllaw Siôn Corn er mwyn cael rhannu eu holl ddymuniadau am anrhegion yr ŵyl ag e’. Mae’r gallu hwnnw i gyfathrebu yn Gymraeg yn holl bwysig. 

“Dylai bod holl blant Cymru yn gallu siarad â Siôn Corn yn Gymraeg” esbonia Aled Evans o Fenter Iaith Cwm Gwendraeth Elli; “Mae Siôn Corn yn gymeriad hudolus, sydd yn byw yn bell i ffwrdd, ond eto sydd yn cysylltu â holl blant y byd yn grwn yn eu mamiaith. Mae gallu bod yn naturiol a chyfforddus yng nghwmni Siôn Corn yn rhan neilltuol o’r profiad, a gall hwnnw ond ddigwydd drwy famiaith y plentyn.” 

Rhaid oedd i grotos Siôn Corn fynd yn rhithiol llynedd, a cynigwyd ymweliadau â’r dyn ei hun ym mhob rhan o Gymru drwy gofrestru am ‘slot’ gyda’r Fenter Iaith leol. Dyma oedd gan un rhiant o ardal Menter Iaith Fflint a Wrecsam i ddweud; 

“Just wanted to say a huge thank you to everyone involved in the Siôn Corn Zoom sessions. Unfortunately we’re not Welsh speakers like our kids so couldn’t understand most of what was said but Charlie definitely could and looked somewhat starstruck. Thank you so much for arranging this and providing such a long and professional call”. 

Plant Cwm Gwendraeth Elli wrth eu bodd cael sgwrsio’n Gymraeg gyda Siôn Corn dros y we

Gyda hi’n edrych yn debygol mai cyfuniad o’r rhithiol a’r cnawd fydd yn digwydd eleni, mae’r Mentrau Iaith am gael gwybod ym mhle drwy Gymru fydd Siôn Corn sydd yn siarad Cymraeg? Mae’r Mentrau Iaith yn eich gwahodd i gysylltu gyda nhw er mwyn gadael iddynt wybod y manylion. 

Bydd y Mentrau Iaith yn creu rhestr gynhwysfawr o leoliadau Siôn Corn Cymraeg eu iaith ar draws Cymru gyfan gan ei ryddhau fel nad oes rhaid i unrhyw blentyn gael eu amddifadu o gael sgwrsio yn Gymraeg gyda’r dyn mawr. 

Os bydd Siôn Corn yn ymweld â chanolfan arddio, neuadd bentref, ffair Nadolig neu yn rhithiol dros gyfrifiadur, cysylltwch â’r Fenter Iaith leol gyda’r wybodaeth briodol. 

Ddim yn sicr o leoliad dy Fenter Iaith? Mae’r wybodaeth yma!