Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl-droed Menywod Cymru ar gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol! Mae’n gampwaith yn ei hun ac rydym yn dathlu hyn gydag amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru.
Gŵyl Cymru Abertawe
Gŵyl Cymru @ Tŷ Tawe // Cymru vs. Netherlands | Facebook
Gŵyl Cymru @ Elysium // Cymru vs. France | Facebook
Gŵyl Cymru @ The Bunkhouse // Cymru vs. England | Facebook



Gŵyl Cymru Ceredigion


Gŵyl Cymru Merthyr Tudful
Siglo, Socer a Selsig – 13 Gorffennaf o 5yh ymlaen, Canolfan a Theatr Soar

Gŵyl Cymru a Gŵyl Canol Dref

Gweithdy Sylwebu gyda Mei Emrys
Rydym wrth ein boddau yn gallu cynnig cyfres o weithdai sylwebu gyda Mei Emrys i ysgolion ar draws Cymru.
Mae 2 ysgol yn Rhondda Cynon Taf a 2 ysgol yn Abertawe wedi mwynhau’r gweithdai yn barod. Ac mae’r plant wrth eu boddau yn ysgrifennu sylwebaeth ac yn gwrando ar Mei yn darllen eu sylwebaeth nhw. Profiad a hanner!
Mae rhai o’r plant – bechgyn a merched – yn chwarae pêl-droed mewn clybiau tu allan i’r ysgol ac mae gan rhai plant diddordeb mewn gyrfa yn sylwebu chwaraeon. Wel, am gyfle i ddatblygu dyfodol chwaraeon Cymru a hynny i gyd yn Gymraeg!
Dyma blant Ysgol Cwm Rhondda yn mwynhau’r gweithdy a chyfle i gael llofnod gan Mei.


Plant Ysgol Bryn Tawe – merched i gyd yn y gweithdy! – yn cael sesiwn wych!





Plant Ysgol Gyfun Gŵyr yn cael blas ar sylwebu pêl-droed


A dyma 30 o blant Ysgol Pen y Pîl yn mwynhau’r gweithdy gyda Mei


Pecyn Gweithgareddau’r Mentrau Iaith
Rydym wedi lansio ein Pecyn Gweithgareddau newydd sbon llawn gemau hwyliog, creadigol a dwyieithog i ddathlu’r UEFA EWRO Menywod 2025 a chefnogi Tîm Menywod Cymru yn y twrnamaint!
Perffaith ar gyfer ysgolion, clybiau a theuluoedd! Dewch a’ch balchder Cymreig i’r cae, p’un a ydych chi’n rhugl neu’n dysgu ychydig o eiriau yn unig. Sut fyddwch chi’n dangos eich cefnogaeth i’r iaith Gymraeg, Cymru ac i Dîm Menywod Cymru’r haf hwn?
Lawr-lwythwch eich copi chi nawr i gael eich cyffroi am hwyl pêl-droed.
C’mon Cymru: Pecyn Gweithgareddau Ewros Menywod 2025.pdf
