Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.
Mae’n rhan annatod o hunaniaeth a diwylliant Cymru ac mae’n ffordd o groesawu pobl o wahanol gefndiroedd i’n gwlad a’n diwylliant. Trwy gyhoeddi a gweithredu Datganiad Gwrth-hiliol mae’r Mentrau Iaith yn gweithio tuag at groesawu mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru i brofi a mwynhau’r Gymraeg yng ngweithgareddau’r Mentrau Iaith.
Mae Cymru’n wlad amrywiol gyda hunaniaethau’n cydblethu ar hyd a lled y wlad. Fel sefydliad cenedlaethol, mae’n ddyletswydd arnom i ddathlu’r amrywiaeth honno a herio’r cysyniad o hunaniaeth Gymraeg sefydlog lle bo angen, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb.
Ein Gweledigaeth
Rydym yn credu’n gryf bod angen creu amodau teg i bawb ffynnu a theimlo eu bod yn perthyn i’r Gymraeg ac i’r gymuned yn rhan ganolog o waith y Mentrau Iaith.
Mae mabwysiadu ffyrdd gwrth-hiliol o weithredu yn hollbwysig i sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb ymhob cymuned ar draws Cymru.
Ni fyddwn yn goddef hiliaeth, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.
Ein hymrwymiad
Rydym yn ymrwymo i greu amgylchedd a phrofiad lle mae pawb yn teimlo bod croeso cynnes iddynt – boed yn weithwyr, gwirfoddolwyr, aelodau’r cyhoedd neu bartneriaid. Mae sicrhau amgylchedd cynhwysol, cydradd ac amrywiol yn allweddol i’r Mentrau Iaith ac i’r Gymraeg ffynnu.
Rydym yn sicrhau bod:
- Ein gwasanaethau yn gynrychioliadol ac yn hyrwyddo cynwysoldeb.
- Y Mentrau Iaith a’u partneriaid lleol yn datblygu eu hymwybyddiaeth ac arferion i sicrhau bod pawb o bob cefndir yn teimlo eu bod yn perthyn i’r gymuned, a hynny yn y Gymraeg.
- Y Mentrau Iaith yn weithle sy’n croesawu pawb a bod y gweithlu yn deall pwysigrwydd tegwch a gwrth-hiliaeth.
- Y Mentrau Iaith yn cyd-weithio â phartneriaid i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n uniaethu ag un o’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (e.e. anabledd, crefydd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, oed).
- Pawb yn teimlo croeso cynnes yn ein gwaith, boed yn swyddogion, gwirfoddolwyr, aelodau neu bartneriaid. Rydym yn gwybod bod creu amgylchedd cynhwysol, cydradd ac amrywiol yn hanfodol i’n gwaith.
Camau nesaf:
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n uniaethu ag un o’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (e.e. anabledd, crefydd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, oed).
- Gweithio ar y cyd â sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn gwella ymgysylltu a chyfranogiad.
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid strategol i ddatblygu arlwy hyfforddiant ac adnoddau, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ein swyddogion a’n gwirfoddolwyr o’r agenda Gwrth-hiliaeth.
- Adolygu ein polisïau er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi ein Datganiad Gwrth-hiliaeth. Mae hyn yn cynnwys ein polisïau recriwtio.
- Byddwn yn dangos ein hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein negeseuon mewnol ac allanol. Bydd swyddogion, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid yn deall bod yr ymrwymiad hwn o fod yn sefydliad Gwrth-hiliol yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.