Cyfres flynyddol o deithiau tywys ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda themâu gwahanol i siaradwyr Cymraeg yw Ar Droed. Mae’r teithiau’n bennaf i siaradwyr newydd gan wahodd siaradwyr profiadol i ymuno hefyd.
Mae teithiau o dan faner “Ar Droed” wedi bod yn boblogaidd iawn ers pum mlynedd bellach ac yn parhau eto eleni gydag ymweliadau â chynefinoedd pobl enwog yn hanes Cymru a sgyrsiau gyda siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd mwyafrif byd eang.
Partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mentrau Iaith yw’r teithiau sy’n cynnig profiadau arbennig i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr profiadol. Dechreuodd y teithiau yn ystod cyfnod Covid gyda theithiau tywys ym myd natur yng nghwmni Iolo Williams. Datblygodd i gynnwys adeiladau arwyddocaol, amgueddfeydd, gerddi a lleoliadau chwaraeon yn ystod y blynyddoedd gan gynnwys y Senedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Gerddi Botaneg Cenedlaethol a’r Cae Ras yn Wrecsam – i enwi rhai o’r uchafbwyntiau.
Eleni bydd cyfle i siaradwyr Cymraeg newydd a phrofiadol brofi teithiau gwahanol rhwng mis Hydref 2026 a Mis Mawrth 2027. Bydd un gyfres o bedair taith yn ymweld â chynefinoedd pobl enwog yn hanes Cymru. Bydd ail gyfres yn dilyn taith iaith tri awdur o gefndiroedd mwyafrif byd eang.
Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch ag ardroed@mentrauiaith.cymru







Dyma flas o’r teithiau sydd wedi bod.














