Mae Cynllun Strategol newydd Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn nodi sut y byddwn yn cefnogi’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ledled Cymru i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau.
Gyda Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd, bydd MIC yn darparu sylfaen gadarn i’r Mentrau drwy weithredu 5 amcan allweddol.
Bydd y rhain yn sicrhau bod y Mentrau yn ffynnu gan ddarparu adnoddau, cymwyseddau, isadeiledd a llais cenedlaethol, mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a’r trydydd sector. Ein nod yw cryfhau cynllunio ieithyddol cymunedol a dyblu defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau.
Gallwch weld ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2025-28 yma.
