Mawrth 1af yw diwrnod dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant a bydd y Mentrau Iaith reit yng nghanol y dathliadau ar hyd a lled Cymru y diwrnod hwnnw – ac hefyd ar y diwrnodau yn dilyn. 

A fydd parêd drwy ganol dy dref lleol di? Bydd llawer o Fentrau Iaith yn rhan o drefniadau parêd’s yn nifer o drefi Cymru gan gynnwys Aberystwyth a Llambed yng Ngheredigion ac ail sefydlu parêd Tregaron, mae modd i ti ymuno mewn parêd yn Ystradgynlais, Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd draw at Ddinbych a Wrecsam a Bangor, bydd y Mentrau lleol yn hapus i dy groesawu! 

Bydd Cymru yn atseinio mewn cerddoriaeth fyw a llawen gyda thwmpath yn Aberhonddu, cerddoriaeth werin yng Nghaerdydd, canu cymdeithasol yn Abertawe a gig yn Nhrefin, Sir Benfro. 

Mae nifer o strydoedd fawr ein trefi yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth i addurno eu ffenestri ar gyfer dathlu Dewi Sant – mae’n bleser cerdded drwy Bontardawe, Llandysul, Aberteifi, Rhydaman, Dinbych a Wrecsam – i ond enwi rhai – a gweld yr addurno diwyd.  

Esbonia Heledd ap Gwynfor o Fentrau Iaith Cymru: 

“Mae’r Mentrau Iaith ar hyd a lled y wlad yn edrych ymlaen at gael dathlu gyda’u cymunedau. Bydd ‘na liw a llun yn llythrennol, ym mhob man – a digon o sŵn hefyd. Dwi’n bersonol yn edrych ymlaen at gerdded mewn parêd yn chwifio baneri a chael noson gymdeithasol gyda’r hwyr yn fy ardal leol i – byddwn yn annog pawb i gysylltu gyda’u Menter Iaith leol i gael gweld beth sydd ymlaen dros y dyddiau nesaf!” 

Cysyllta gyda’r Fenter Iaith sydd yn lleol i ti er mwyn gweld beth sydd ymlaen yn dy ardal di – er mwyn darganfod ble mae dy Fenter Iaith dilyn y ddolen hwn: https://mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter/