Mae’r Mentrau Iaith mewn un llais yn condemnio’r rhyfel sydd yn digwydd yn Wcráin ar hyn o bryd.
Dywed Iwan Hywel o Fentrau Iaith Cymru: “Y bobol llawr gwlad sydd yn cael eu effeithio waethaf bob amser mewn rhyfel, nid y rheiny sydd yn achosi dioddefaint a thrallod. Mae’n sefyllfa cwbl torcalonnus.”
Mae’n amlwg bod awydd gan bobol yng Nghymru i helpu gyda nifer yn holi sut mae gallu gwneud hynny yn effeithiol. Mae hyn yn wir am y Mentrau Iaith sydd yn cyfeirio pobl at elusennau gweithgar fel y Groes Goch er mwyn cyfrannu arian all helpu’r bobol yn Wcráin yn unionsyth.
Mae Menter Dinefwr wedi sefydlu man casglu ar gyfer nwyddau a rhoddion i bobl Wcráin yn Hengwrt, Stryd Caerfyrddin, Llandeilo, SA19 6AE. Yno gall y cyhoedd ollwng rhoddion i’r achos rhwng 9.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
“Mae’r sefyllfa i bobl Wcráin a’r ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos yn ofnadwy ac rydym yn falch o allu cynnig unrhyw gymorth posib drwy gydweithio â gwirfoddolwyr lleol,” meddai Owain Gruffydd, Prif Weithredwr Menter Dinefwr. “Mae’r sefyllfa bresennol yn argyfwng dyngarol enfawr a bydd yr holl eitemau a rhoddion yn cael eu trosglwyddo i’r rheini mewn angen.”
Gellir cyfrannu’n ariannol drwy:
UNICEF: https://www.unicef.org/…/conflict-ukraine-pose…
Y GROES GOCH: https://donate.redcross.org.uk/appeal/ukraine-crisis-appeal
BBC iPlayer – Apêl Ddyngarol Wcráin y DEC
Am fwy o wybodaeth:
Iwan Hywel (Arweinydd Tîm MIC): 01492 643401 / iwanhywel@mentrauiaith.cymru
Menter Dinefwr: 01558 263123 / post@menterdinefwr.cymru