Mae’r Mentrau Iaith wedi cynhyrchu taflenni yn ddiweddar sydd yn dangos rhai o eiriau ‘hanfodol’ yn yr iaith Gymraeg wedi eu cyfieithu i’r iaith Wcreineg. Medd Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu gyda Mentrau Iaith Cymru: 

“Mae’r taflenni hyn yn fodd o gyflwyno rhywfaint o’r Gymraeg i bobol o’r Wcráin sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Mae rhestr o eiriau Cymraeg sydd wedi eu cyfieithu i’r Wcreineg ac yn cynnwys y ffonetig Wcreineg o’r geiriau Cymraeg – felly mae modd i’r Wcraniaid wybod sut mae ynganu’r geiriau hyn.”

Mae’r Mentrau Iaith wedi cynhyrchu nifer o daflenni yn y gorffennol sydd yn cyflwyno geiriau Cymraeg ar themâu poblogaidd fel y Nadolig, y tymhorau a gwyliau Cymreig fel Dydd Syntes Dwynwen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Mentrau wneud hyn mewn trydydd iaith. Esbonia Heledd:

“Mae’r taflenni hyn wedi bod yn boblogaidd tu hwnt gan gael eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol sawl tro, y gobaith yw y byddant o fudd i gymuned newydd o bobl a’u gwneud iddyn nhw deimlo yn rhan o’r gymuned Gymreig ym mha bynnag rhan o Gymru mae’n nhw’n byw.”

Mae Tanya Davenport daw o’r Wcráin yn wreididol, yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i gŵr a’u plant, meddai: 

“Rydym ni mor ddiolchgar am y croeso sydd wedi ei ‘mestyn at Wcraniaid yma yng Nghymru, a dwi’n teimlo’n falch o ddweud mod i’n perthyn i gymunedau Cymreig ac Wcranaidd. Mae nifer o Wcraniaid yn dod yma wedi eu llethu gan ryfel, ond mae gwneud y pethau bach hyn i gyd yn cyfrannu at brofiadau positif.”

Dihangodd rhieni Tanya o ddinas Poltava yn nwyrain yr Wcráin gan setlo yng Nghaerfyrddin gyda’r teulu: 

“Mae’n nhw’n clywed yr iaith [Gymraeg] o’u hamgylch, gan weld arwyddion sy’n codi eu chwilfrydedd – mae’r taflenni hyn sydd yn dangos geiriau mewn Cymraeg – gan ddefnyddio ffonetig Wcreineg – yn hyfryd gan wneud i’m rhieni deimlo hyd yn oed yn fwy fel rhan o’r gymuned gynnes hon.”

Mae Llinos Davies yn athrawes Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion ac yn gweithio gyda phlant o’r Wcráin wrth iddynt ymgartrefu yma gan geisio cynnig sefydlogrwydd tra’n eu cyflwyno yn anffurfiol at addysg. Medd Llinos:

“Dwi’n dysgu plant o bob oed i allu cyfathrebu’n ieithyddol. Mae hi mor bwysig iddynt gael rhywfaint o Gymraeg fel eu bod yn gallu uniaethu a theimlo hyd yn oed yn fwy o rhan yn eu cymuned newydd. Dwi wrth fy modd yn eu clywed yn defnyddio Cymraeg, a mae’n nhw yr un mor hapus yn fy nghlywed i yn ceisio siarad rhywfaint o Wcreineg. Mae’n bwysig dangos ein bod ni gyd yn dysgu a’n bod ni gyd yn dymuno dysgu fwy am ein gilydd.”

Mae gan Llinos fideo sydd yn ei dangos yn dysgu Cymraeg ac Wcreineg yn ogystal â Saesneg o dan y teitl: Geiriau ac ymadroddion defnyddiol ar YouTube ac o’r farn y bydd taflenni defnyddiol fel rhain yn cyfoethogi profiadau’r ymwelwyr hyd yn oed yn fwy:

“Mae popeth yn helpu. Mater o barch yw’r gallu i drio dweud ambell i air yn eu hiaith nhw, ac mae’r taflenni yn gyfeiriad defnyddiol iddyn nhw drio dweud geiriau Cymraeg.”

Mae modd cael gweld y taflenni ar gyfryngau cymdeithasol y Mentrau Iaith a chael copi ohonynt drwy gysylltu gyda’ch Menter Iaith yn lleol – am ragor o wybodaeth pwy yw eich Menter Iaith lleol i chi ewch i: https://mentrauiaith.cymru/dod-o-hyd-i-fenter/