Mae Mentrau Iaith Cymru wedi creu pecyn cymorth i bawb allu trefnu digwyddiad cerddorol byw yn eu cymunedau. Mae’r pecyn ar gael i’w gweld yma – rhed drwy’r tudalennau yma:

Bu i’r Mentrau Iaith drefnu a chyd-weithio ar dros 400 o ddigwyddiadau amrywiol yn ystod mis Awst yn unig, o wyliau cerddorol a diwylliannol i ffeiriau a sgyrsiau – popeth yn cynnig cyfleon pwysig i bawb allu defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch groesawgar ac anffurfiol.

Mae’r Mentrau Iaith wedi dwyn ar eu profiad eang yn trefnu digwyddiadau, gan gasglu’r holl wybodaeth ynghyd a’u cyflwyno mewn un pecyn defnyddiol y gall unrhyw un ei defnyddio os am drefnu digwyddiad yn y gymuned. Mae’r pecyn hwn ar gael yn ddigidol ar wefan y Mentrau Iaith yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho.

Ar ôl dwy flynedd o pandemic mae pobol eisiau ac angen dod at ei gilydd – nawr yn fwy nag erioed” esbonia Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu, Mentrau Iaith Cymru.

Mae nifer o bobol wedi mynd mas o’r arfer i drefnu digwyddiadau, ac mae carfan o gymdeithas nad yw wedi gallu trefnu wrth gwrs, oherwydd y cyfyngiadau a fu. Bwriad y pecyn hwn yw arwain person drwy’r pethau sydd angen eu hystyried pan yn trefnu digwyddiad byw – o ystyriaethau am leoliad, i’r gost a’r marchnata a llawer iawn mwy.”

Mae’r Mentrau Iaith yn hen law ar drefnu digwyddiadau o’r fath, ond yn awyddus iawn gweld pobl o fewn eu cymunedau yn mynd ati i gynnal digwyddiadau, a dyma un arf i’w helpu. Mae Menter Iaith Abertawe wedi bod yn trefnu cyfres o gigiau byw yn Tŷ Tawe ac mewn llefydd amrywiol o amgylch dinas Abertawe ers dipyn o amser bellach. Medd Tomos Jones, prif Swyddog Menter Iaith Abertawe:

“Mae’r adnodd hwn yn un gwych os ydych yn meddwl am drefnu gig. Dilynwch y camau’n ofalus a bydd y digwyddiad yn sicr o fod yn llwyddiant. Ewch amdani!”

Enghraifft o ŵyl gerddorol sydd wedi ei gwreiddio yn ei chymuned ydy Gŵyl Newydd sydd yn digwydd dydd Sadwrn, Medi 24ain yng Nghasnewydd. Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Fenter Iaith Casnewydd a Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Medd Thomas Hughes, prif swyddog Menter Iaith BGTM:

“Dechreuodd Gŵyl Newydd yn 2018 gan roedd dymuniad gan drigolion y ddinas a’r cyffiniau i gael diwrnod yn arddangos Cymreictod y ddinas ar ei gorau. Roedd hi’n bwysig i ni mai gŵyl gymunedol wedi ei threfnu gan bobol y gymuned oedd hon am fod. Mae’r ddwy Fenter Iaith wedi bod yn helpu, ond mae angen grymuso’n cymunedau i allu cynnal digwyddiadau fel hyn” medd Thomas: “Mae’r pecyn cynnal digwyddiad am fod yn help mawr i’r rheiny sydd am drefnu a chynllunio, ac rydym fel Menter yn barod i estyn cymorth pe bai angen.”

Dolen at y pecyn cynnal digwyddiad.

Er mwyn cael gwybodaeth o’r gwyliau a nosweithiau cerddorol mae’r Mentrau Iaith yn eu trefnu, clicia ar y ddewislen – Miwsig ar ein Hafan ddalen.