Rydym yn falch rhannu’r newydd fod Dewi Snelson wedi camu i gadeiryddiaeth Mentrau Iaith Cymru ers mis Tachwedd eleni (2021). Bu’n is gadeirydd am y tair blynedd ddiwethaf tra bu Lowri Jones yn cadeirio. Rydym yn diolch yn arbennig i Lowri am ei gwaith diwyd yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn hynod o heriol. 

Mae Dewi yn Brif Swyddog Menter Gorllewin Sir Gâr ers 2014. Mae’n enedigol o sir Ddinbych, ac wedi gweithio i Fenter Iaith Môn cyn symud i Gaerfyrddin ble mae’n byw gyda’i wraig a thri o blant.   

Meirion Davies, Prif Swyddog ar Fenter Iaith Conwy, yw is gadeirydd newydd rhwydwaith y Mentrau Iaith.  

 Os am gysylltu gyda Dewi: dewi@mgsg.cymru / 01239 712934   

 Os am gysylltu gyda Mentrau Iaith Cymru: post@mentrauiaith.cymru / 01492 643401