Hoffai’r Mentrau Iaith ar draws Cymru ymestyn ein cydymdeimlad i deulu a chydnabod Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, heddiw.  

Daeth â chyfoeth o brofiad i’r rôl hwnnw gan weithio yn ddiflino ar wneud y Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan o brofiad bob dydd pobl Cymru. 

Gobeithio bod yr un brwdfrydedd yn bodoli ymysg pob un ohonom i barhau gyda’r gwaith o allu cynyddu defnydd y Gymraeg yn ein holl gymunedau.  

Yr ydym i gyd yn gyfoethocach o fod wedi cael ei adnabod a chael y fraint o gyd weithio gydag ef.