Mae Mentrau Iaith Cymru wedi paratoi taflenni i’w dosbarthu i fusnesau ar hyd a lled Cymru, yn siopau, tafarndai, caffis a swyddfeydd mewn ymgais i annog mwy o bobl i roi cynnig ar ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r taflenni wedi eu creu i gyd-fynd â dathliadau Diwrnod Shwmae Su’mae a gynhelir ar y 15fed o Hydref eleni – diwrnod sy’n annog pawb yng Nghymru i fyw, dysgu a mwynhau’r Gymraeg.

Dywed Meirion Davies, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r taflenni hyn yn cynnig cyfle arbennig i ni annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg a rhoi cynnig ar ddefnyddio prin bynnag Cymraeg sydd ganddynt wrth fynd o gwmpas eu bywydau o ddydd i ddydd.

Gall diffyg hyder wrth siarad Cymraeg effeithio ar faint o Gymraeg y bydd pobl yn ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Rydym yn gobeithio, y bydd datblygu’r taflenni hyn yn cael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny ac yn creu amgylchfyd lle gall, ac y bydd pobl yn defnyddio mwy o’u Cymraeg.”

Gallwch lawrlwytho’r taflenni o ochr dde’r dudalen hon ac mae pob croeso ichi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.

Cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DSS15 wrth sôn am eich dathliadau Shwmae Su’mae ar Facebook a Twitter.