Mae’r Mentrau Iaith yn annog cymaint o bobol a phosib i ymateb i 3 ymgynghoriad sydd yn ymwneud a dyfodol Cymraeg yn ein cymunedau yng Nghymru. Medd Dewi Snelson, cadeirydd y Mentrau Iaith:
“Gan ddilyn yr ystrydeb hwnnw, fel bysus mae 3 ymgynghoriad o bwys wedi glanio ar yr un pryd. Rydym ni fel Mentrau Iaith, yn ei gweld hi mor bwysig clywed llais ein cymunedau wrth ymateb i’r ymgynghoriadau hyn”.
Mae’r Mentrau Iaith yn adnabyddus fel mudiadau sydd wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau ar draws Cymru, gan weithio gyda phobol o fewn y cymunedau hynny i gryfhau a grymuso’r Gymraeg ynddynt.
“Mae ymateb i’r ymgynghoriadau hyn [y cyntaf erbyn Chwefror 22ain] yn gyfle prin iawn i allu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol y Gymraeg a’r camau positif ymlaen” esbonia Dewi: “Rydym ni fel rhwydwaith o Fentrau Iaith wedi trafod sut byddwn yn ymateb ac un peth clir ydy’r angen i ddeddfu. Mae cyfnod o ddibynnu ar ‘ewyllys da’ wedi cael ei amser, rhaid gweithredu yn gadarn ar lawr Senedd Cymru”.
Mae’r Mentrau Iaith yn cynnwys tudalen ar eu gwefan sydd yn annog pobl i ddefnyddio’u Cymraeg ar bob achlysur a chyfeiriad at sut gall bawb wneud eu rhan i ddiogelu’r iaith, ewch yma. Mae’r neges damaid yn wahanol ar ein tudalen Saesneg yma er gwybodaeth.
Gellid mynd at yr ymgynghoriadau trwy ddilyn:
https://llyw.cymru/cynllun-tai-cymunedau-cymraeg