Mae Mentrau Iaith Cymru wedi ennill y Marc Elusen Dibynadwy Lefel 1 gan gydnabod y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud fel sefydliad trydydd sector yng Nghymru. Dyma’r ail waith iddynt fod yn llwyddiannus, gyda’r broses hwn sydd yn digwydd bob tair mlynedd.

Dywed Dewi Snelson, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;

“Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y gydnabyddiaeth yma am drefniadau llywodraethu a rheoli rhagorol o fewn Mentrau Iaith Cymru unwaith yn rhagor. Mae’r broses hunanasesu ac asesiad allanol wedi bod yn fuddiol tu hwnt wrth adolygu a ffurfioli systemau o fewn y mudiad sydd, yn y broses, wedi helpu i wneud y mudiad yn fwy effeithlon ac effeithiol.”

Mae’r Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) yn gyfrifol am y Safon Elusen Ddibynadwy sydd yn cael ei gyflwyno gan Y Growth Company a dyma’r unig safon ansawdd yn y DU sydd wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau trydydd sector i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon.

Mae MIC (Mentrau Iaith Cymru) wedi cael ei hachredu â Marc Elusen Dibynadwy Lefel 1 sy’n golygu eu bod wedi bodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol lleiaf ac mae ganddynt systemau a strwythurau yn eu lle i ddiogelu hawliau defnyddwyr a gweithwyr. Penderfynwyd ar hyn trwy i’r mudiad gael ei asesu yn erbyn 11 maes ansawdd y Safon Elusen Dibynadwy; llywodraethu, cynllunio, arwain a rheoli, gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rheoli pobl, dysgu a datblygu, rheoli arian, rheoli adnoddau, cyfathrebu allanol, gweithio gydag eraill, ac asesu canlyniadau ac effaith.

Gyda’r Growth Company yn arwain ar gyflwyno’r marc safon hwn am y tro cyntaf, mae’n nhw’n hynod o falch gallu cyflwyno’r marc yn y Gymraeg am y tro cyntaf i Mentrau Iaith Cymru.

Medd Mark Chapman, Pennaeth Gwasanaethau’r Growth Company: 

“Rydym yn falch iawn o fewn yr NCVO ein bod yn gallu cynnig proses i gyflawni cyrraedd marc safon ddibynadwy drwy’r Gymraeg. Mae hyn yn hynod o bwysig yn enwedig i fudiadau sydd yn gweithredu’n bennaf drwy’r Gymraeg – mae’n golygu eu bod yn gallu cyflwyno a darparu gwybodaeth ar eu gorau, a dyna mae’r NCVO yn dymuno ei gweld – sef y mudiadau hyn ar eu gorau.

Mae Mentrau Iaith Cymru wedi dangos hynny, ac oherwydd wedi llwyddo i gyrraedd y marc safon hwnnw. Llongyfarchiadau mawr iddynt, a boed iddynt barhau gyda’r gwaith da!”