Prosiect adnewyddu yn Llandeilo i agor ei ddrysau cyn y Nadolig


Bydd canolfan newydd Menter Dinefwr, Hengwrt, yn Llandeilo yn agor ei drysau mewn pryd ar gyfer y Nadolig yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.
Mae Hengwrt yn ganolfan gymunedol newydd sydd wedi’i lleoli ar Stryd Caerfyrddin, ac o 25 Tachwedd i 24 Rhagfyr bydd y ganolfan ar agor i’r cyhoedd i ddathlu’r Nadolig gyda siopau dros dro amrywiol gan fusnesau lleol. Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i gangen newydd o Cyfoes, siop Menter Dinefwr, yn gwerthu llyfrau a phob math o nwyddau Cymraeg.


Mae’r agoriad yn nodi diwedd cam cyntaf gwaith adfer Hengwrt, a oedd mewn cyflwr gwael pan gafodd ei drosglwyddo i Fenter Dinefwr wrth Gyngor Tref Llandeilo yn 2018. Ers hynny, mae’r ganolfan wedi’i hadnewyddu’n llwyr i’w gwneud yn addas ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau cymunedol.
Mae Cam 1 wedi cynnwys adnewyddu’r adeilad yn llwyr yn barod ar gyfer agoriad y Nadolig, a bydd Cam 2 yn cynnwys datblygu canolfan dreftadaeth ac ymwelwyr, ynghyd â llogi ystafelloedd a swyddfeydd, i’w datblygu yn gynnar yn 2022.


Dywedodd y Prif Weithredwr Owain Gruffydd, “Roeddem yn ffodus y gallai’r gwaith adeiladu barhau drwy gydol y rhan fwyaf o’r pandemig, ac er bod heriau a pheth oedi, rydym yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ac yn methu aros i’w rannu gyda’r gymuned. Hoffem hefyd ddiolch i’n contractwyr Adeiladwyr TAD, am eu cydweithrediad ac am gwblhau’r prosiect yn barod ar gyfer cyfnod y Nadolig.”
Ychwanegodd Non Edwards, Rheolwr Gwasanaethau Masnachol Menter Dinefwr, “Mae agor cangen newydd o Cyfoes yn Llandeilo yn gyffrous iawn, ac rydym yn falch o allu cynnig lle i fusnesau llai yng nghanol y dref, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.”


Sicrhaodd Menter Dinefwr, menter gymunedol leol, gyllid i adnewyddu’r adeilad yn 2018, yn dilyn ymgynghoriad helaeth lle nodwyd yr angen i greu adeilad aml-ddefnydd gan gynnwys ystafelloedd cyfarfod, gofod swyddfa, a chanolfan ymwelwyr treftadaeth. Bydd Hengwrt hefyd yn gartref i waith celf cymunedol, cofiant y dref, a bydd yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau, ynghyd â bod yn bencadlys i Gyngor Tref Llandeilo.


Mae Menter Dinefwr yn fenter gymunedol a sefydlwyd yn 1999. Mae’r sefydliad yn gweithio i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ac i gefnogi datblygiad cymunedol ac economaidd. Mae wedi tyfu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae’n edrych ymlaen at agor ei brosiect blaenllaw newydd yn Llandeilo.


Gallwch gysylltu â Menter Dinefwr drwy post@menterdinefwr.cymru, ffoniwch (01558) 825336, neu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol @menterdinefwr @hengwrtllandeilo

Sara Rees: sararees@menterbrodinefwr.cymru