Mae Menter Iaith Abertwe yn gyffrous iawn i allu cyhoeddi gŵyl iaith Gymraeg newydd ar gyfer Abertawe! Bydd Gŵyl Tawe yn digwydd tu allan i dafarn y Railway Inn yng Nghilâ ar ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi.

Bydd cerddoriaeth fyw gan Papur Wal, Mari Mathias, a Bwca, a DJs Menter Abertawe yn chwarae cerddoriaeth Cymraeg o 3 o’r gloch ymlaen! Bydd stondinau bwyd a dewis eang o ddiodydd o’r dafarn. Mae mynediad AM DDIM ac mae croeso mawr i bawb.

Mae’r ŵyl yn digwydd gyda chefnogaeth Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, a bydd stondin yn hysbysebu’r cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi a chyfle i sgwrsio gyda staff ynglŷn â’r cyfleoedd i ddysgu Cymraeg trwy’r brifysgol.

Mae’r line up cerddorol hefyd wedi ei drefnu mewn cydweithrediad â Swansea Music Hub. Mae’r Hub yn gyfrifol am gefnogi a hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth yn Abertawe, ac am drefnu Gŵyl Ymylol Abertawe pob mis Hydref. Bydd cyhoeddiad cyffrous ynglŷn â’r Ŵyl Ymylol eleni yn dilyn y digwyddiad yma ar ddydd Sul y 5ed o Fedi!

Railway Inn, Cilâ

Tu fas i dafarn y Railway Inn, Cilâ