Heidiodd miloedd i Ynys y Barri eto i ymweld â Gŵyl Fach y Fro ar Fai 18fed, 2024! Am adloniant oedd ar gael – a’r cyfan i’w fwynhau yn Gymraeg! Mae’r ŵyl yn rhoi cyfle i’r rhai ifanc iawn gyda pherfformiadau gan ysgolion cynradd i’r rhai mawr gyda band Gwilym, Tara Bandito, N’Famady Kouyaté a Los Blancos yn eu plith.
Bydd yr Ŵyl Fach yn ôl yn 2025 ar 17 Mai!
Dyma flas o’r ŵyl mewn lluniau!





















