yng Ngwobrau Cenedlaethol y Mentrau Iaith 

Yng ngwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith neithiwr ym Mharc y Scarlets Llanelli, cyhoeddwyd enw’r pum Menter Iaith sydd wedi ennill prosiect o ragoriaeth yn 2026 yn ogystal â dathlu gwaith arbennig y 22 o fentrau iaith ledled Cymru yn hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg. 

Roedd y beirniad yn chwilio am brosiectau oedd yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd ac agweddau at y Gymraeg, yn apelgar, yn arloesol ac yn gynhwysol.  Noddwyd y gwobrau gan Mentera, Atebol, Darwin Gray, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, a’r pum prosiect o ragoriaeth a ddaeth i’r brig oedd: 

  

·      Menter Môn – gyda’u prosiect Ogi Ogi 

·      Menter Iaith Abertawe – gyda Chôr Cymunedol Gŵyl Tawe 

·      Menter Dinefwr – gyda’u prosiect Helo Hanes 

·      Menter Iaith Conwy – gyda’u Pwyllgorau Ardal 

·      Menter Iaith Sir Benfro – gyda’u Prosiect Glasu 

  

Yn ôl Garmon Rhys, Cyfarwyddwr BBC Cymru, oedd ar y panel beirniadu, “Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld yr holl waith gwerthfawr sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. 

 “Ac er y gallem fod wedi gwobrwyo pob un o’r prosiectau, roeddem fel panel yn gytûn fod y pum prosiect o ragoriaeth ddaeth i’r brig yn haeddu clod arbennig.” 

Wrth gyflwyno’r pum prosiect ddaeth i’r brig, dywedodd y beirniaid, “Roedd prosiect Ogi Ogi gan Menter Môn, sy’n siop-un-stop i annog a chefnogi rhieni newydd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, yn syniad gwych i wreiddio’r Gymraeg mewn bywydau bach o’r cychwyn cyntaf.  Roeddem hefyd yn gweld fod potensial iddo gael ei ymestyn i bob cwr o Gymru.” 

  

“Roedd prosiect Menter Iaith Abertawe i sefydlu côr cymunedol fel rhan o Ŵyl Tawe yn gyffrous iawn. Y bwriad oedd ymgysylltu gyda chymunedau gwahanol sy’n byw yn Abertawe a’u cyflwyno i’r Gymraeg. Llwyddodd i ddenu pobl newydd at yr iaith trwy gân.” 

  

“Difyr oedd clywed am brosiect Helo Hanes Menter Dinefwr sy’n dod â hanes yn fyw yn yr ardal. Roedd yn wych gweld sut oedd treftadaeth yr ardal yn cael ei ddefnyddio fel arf i gysylltu cymunedau ac unigolion gyda’u milltir sgwâr, a’r iaith. Ac roedd yn glir y gallai’r prosiect yma gael ei efelychu mewn ardaloedd eraill..” 

  

“Er mwyn grymuso’r gymuned a sicrhau fod digwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal ar draws y sir, mae Menter Conwy wedi sefydlu 12 pwyllgor lleol sy’n rhoi cyfrifoldeb i gymunedau drefnu digwyddiadau. Roedd hon yn enghraifft dda o ledaenu’r effaith y Fenter yn ogystal â gwreiddio’r gweithgareddau o fewn cymunedau ar draws y sir.” 

  

“Ac roedd prosiect Glasu Menter Sir Benfro yn enghraifft berffaith o sut y mae’r  mentrau’n uchafu effaith  digwyddiadau cenedlaethol megis yr Eisteddfod Genedlaethol.  Roedd yn brosiect trawiadol a gweladwy iawn, oedd yn plethu hanes a diwylliant yr ardal mewn modd amrywiol, gyda’r murluniau’n goron ar y cyfan. Mae hefyd yn braf gweld fod gweithgareddau yn ymwneud gyda’r prosiect yn parhau, fel arwydd o waddol yr Eisteddfod yn ein cymunedau.” 

  

Ar y panel beirniadu, roedd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Garmon Rhys, Cyfarwyddwr BBC Cymru, Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg Coleg Cambria, Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ac Elin Burns,Cyfarwyddwr y Gymraeg Llywodraeth Cymru. 

  

Roedd gwobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith wedi eu noddi gan y pum prif noddwr – Mentera, Atebol, Darwin Gray, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg – yn ogystal â Llywodraeth Cymru, BBC Radio Cymru, Am, Golwg Creadigol, S4C, Ateb, Ashmole & Co a Rhieni Dros Addysg Gymraeg.