Sut fyddwch chi’n dathlu’r Pasg eleni? Helfa wyau? Cinio Sul mawreddog gyda’r teulu? Beth bynnag byddwch yn ei wneud, cofiwch wneud yn Gymraeg.

Beth am rannu’r darlun yma i annog eraill ddefnyddio ychydig o Gymraeg?

Gwyl Ddewi

Clapio Wyau

Bydd Môn yn dathlu un o’i thraddodiadau hyfrytaf cyn y Pasg wrth i blant yr ynys ymweld â chartrefi yng Ngharreglefn, Brynsiencyn, Llynfaes, Talwrn a Llannerchymedd i glapio am wyau gan bentrefwyr caredig. Yn draddodiadol casglai blant wyau gan ffermwyr hael a’u trosglwyddo i’w teuluoedd er mwyn coginio i ddathlu’r Pasg. Yr un yw’r rhigwm Cymraeg a’r clapiwr pren a ddefnyddir gan y plant heddiw, ond mae’r wyau wedi newid wrth i’r plant ymweld â phentrefwyr i gasglu wyau siocled.

 Gallwch ddarllen am fwy o draddodiadau’r Cymry dros y Pasg yma.