Dros y misoedd nesaf, bydd y Mentrau Iaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal dwy gyfres newydd o deithiau tywys ‘Ar Droed’ mewn lleoedd arbennig yng Nghymru ar gyfer siaradwyr Cymraeg– hen a newydd.
Yn dilyn llwyddiant teithiau natur ‘Ar Droed’ yn 2022, bydd un gyfres o deithiau tywys yn cael ei chynnal mewn pedwar adeilad arwyddocaol, ac un gyfres mewn pedair gardd arbennig yng Nghymru.
Tywyswyr lleol fydd yn arwain y teithiau eleni, sy’n cael eu cynnal rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf, ac mae ambell i enw adnabyddus yn ymuno i gefnogi hefyd.
Ymweliad â Senedd Cymru ar 8 Chwefror oedd yn dechrau’r gyfres o deithiau mewn adeiladau arwyddocaol. Ymunodd y Llywydd, Elin Jones, â’r grŵp i gael sgwrs am yr adeilad, gwaith y Senedd a gwaith y Llywydd.
Dwedodd Margaret White, tiwtor Cymraeg: “Gwnaeth y grŵp fwynhau yn fawr. Ac rôn i meddwl bod lefel siarad Elin Jones a Huw (y tywysydd) yn wych ac yn sensitif i’r gynulleidfa.”
Ar y daith nesaf bydd cyfle i ymweld â Senedd-dy Owain Glyndŵr ym Machynlleth ar yr 22ain o Chwefror ac mae rhai llefydd dal ar gael. Bydd teithiau’r adeiladau eraill yn ymweld â bryngaer Castell Henllys yn Sir Benfro a’r Llyfrgell Genedlaethol y Aberystwyth ddiwedd mis Mawrth.
Yn y gwanwyn a’r haf bydd y gyfres o deithiau gerddi yn ymweld â Portmeirion (29 Ebrill), yr Ardd Fotaneg Genedlaethol (13 Mai), Gardd Berlysiau’r Bont-faen (8 Mehefin) a Phont y Tŵr – gardd Sioned ac Iwan Edwards sy’n wynebau adnabyddus rhaglen “Garddio a Mwy” S4C ar 28 Mehefin.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol a ’dyn ni’n falch dros ben bod teithiau tywys ‘Ar Droed’ yn cael eu cynnal eto eleni. Bydd y teithiau yn gyfle i ddysgwyr ddod i wybod mwy am y cyfoeth o eiriau Cymraeg, yn ogystal â chyfarfod a sgwrsio gyda dysgwyr eraill yn eu hardal.”
Meddai Daniela Schlick, Cydlynydd Prosiectau gyda Mentrau Iaith Cymru:
“Mae’r Mentrau Iaith ar draws Cymru yn cynnal gweithgareddau i roi cyfle i bobl fwynhau siarad Cymraeg yn eu hardaloedd nhw. Felly, rydym yn falch iawn o allu cynnal y ddwy gyfres o deithiau tywys o dan faner ‘Ar Droed’ eto eleni. Mae’r teithiau yn y Gymraeg ac mae gwahoddiad i bawb sy’n siarad Cymraeg – boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr iaith gyntaf. Rydym yn awyddus i ddangos bod y gweithgareddau’n gallu pontio cymunedau hefyd. Mae sgwrs yn llifo yn llawer gwell wrth wneud gweithgareddau fel mynd am dro a chymdeithasu.”
Mae croeso arbennig i’r rhai sy’n aelodau o’r cynllun Siarad, cynllun sy’n rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr ddod at ei gilydd i gymdeithasu.
Bydd paned a mwy o gyfle i sgwrsio ar gael ar bob un o’r teithiau. Ychwanegodd Daniela Schlick:
“Mae panad yn dda i’r enaid ac yn sicr yn dda i greu awyrgylch cyfeillgar am sgwrs.”
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru





