Wedi llwyddiant ysgubol llwybr Cwm-Rhyd-y-Rhosyn ar stondin y Mentrau Iaith yn Eisteddfod yr Urdd, mae’r Cwm yn dod i’r Pentref Plant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Mae’r llwybr trwy fyd hudol y Cwm gyda chaneuon bytholwyrdd Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones yn brofiad i’r teulu cyfan sy’n ail-greu plentyndod cenedlaethau o blant Cymru ac yn cyflwyno’r Cwm i genhedlaeth newydd. Bydd cyfle i blant o bob oed grwydro llwybr aml-synhwyraidd trwy’r Cwm gyda chyfeiliant caneuon a straeon Cwm-Rhyd-y-Rhosyn trwy glust ffonau disgo distaw.
Dros 550 o bobl aeth ar daith trwy’r Cwm yn ystod Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn. Bydd cyfle i fwy o bobl brofi hud y llwybr hyfryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd negeseuon y plant a’u rhieni ar ôl mynd trwy’r Cwm yn hyfryd iawn. Roedd pawb wedi mwynhau darganfod pethau gwahanol ar y llwybr, canu’r caneuon a gwrando ar y stori. “Hoff stondin ‘Steddfod erioed” dwedodd yn person!
Bydd y llwybr ar agor yn ystod cyfnod cyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Gallwch archebu taith ar wefan Mentrau Iaith Cymru (Cwm-Rhyd-y-Rhosyn | Y Mentrau Iaith). Mi werthodd y teithiau fel clecs yn Eisteddfod yr Urdd. Felly y cyntaf i’r felin fydd hi!
Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn gafodd y syniad am y prosiect gan gofio’r caneuon a’r straeon o’i phlentyndod ei hun. Heledd Rees, dylunydd set profiadol sydd wedi creu’r llwybr aml-synhwyraidd.
Ariennir y prosiect trwy grant Creu Bach Cyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Rhieni Dros Addysg Cymraeg a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny mae cwmni Sain a’r Eisteddfod Genedlaethol yn bartneriaid allweddol y prosiect trwy gyfrannu adnoddau gwerthfawr i sicrhau llwyddiant y prosiect gan gynnwys gwaith adeiladu rhannau mawr o’r set trwy Tony Thomas a Jason Jones o’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Tŷ Bach Twt yn rhodd gan gwmni Outdoor Toys ym Maldwyn.
Meddai Einir Siôn, Ysgogwr y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru
“Mae Cwm Rhyd y Rhosyn wedi tanio dychymyg cenedlaethau o blant. Bydd yn hyfryd gallu dathlu’r cyfraniad arbennig hwn trwy gyflwyno’r caneuon a’r straeon i genhedlaeth newydd. Dwi’n siŵr bydd tipyn ohonom ni hen rai hefyd yn mwynhau cael ein hatgoffa o fryniau Bro Afallon a’i holl gymeriadau. Dyma waith gwreiddiol, creadigol a pherthnasol gan y Mentrau Iaith ac mae’n bleser i’r Cyngor Celfyddydau ei gefnogi.”
Tu hwnt i’r profiad anhygoel i’r plant a’u rhieni bydd y llwybr yn rhoi cyfle i bobl ifanc yr ardal wirfoddoli ar y stondin a thrwy hynny gael profiad gwaith yn y Gymraeg yng ngŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru!
Medd Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
“Rydym yn falch o allu cynnig profiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc yr ardal. Mae’n ffordd wych o fod yng nghanol diwylliant Cymraeg a bwrlwm yr Eisteddfod. Mwy na hynny mae’n gyfle i’r bobl ifanc gael blas ar ganeuon a straeon sy’n rhan o blentyndod llawer o bobl yng Nghymru hyd heddiw. Ac mae gallu cyfuno profiad o ŵyl gyfoes a byrlymus gyda phrosiect sy’n dathlu 50 mlynedd ers rhyddhau’r recordiadau yn gyffrous iawn.”
Bydd stondin arferol gan y Mentrau Iaith hefyd gyda gweithgareddau gwahanol i bawb – gwawd lunio gyda Siôn Tomos Owen, gweithdy Ukelele gyda Mei Gwynedd, Pili Pala Yoga a sesiwn ganu gyda Blodau Haul i’r plant bach, lansiad adnoddau byd natur. Bydd taith gerdded o’r Hen Bont i’r Comins gyda Rhys Mwyn. Ac mae 2 drafodaeth banel ym Mhabell y Cymdeithasau am waith y Mentrau Iaith i ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg a datblygu bandiau ifanc Cymraeg.





Gweithgareddau eraill gan y Mentrau Iaith








