Bu i filoedd o blant ar draws Cymru gystadlu yn Cwis Dim Clem eleni. Roedd yn agos at 200 o ysgolion wedi cystadlu mewn cwis poblogaidd sy’n cael ei threfnu gan y Mentrau Iaith. Rhaid oedd i dimau o flwyddyn 6 gystadlu drwy ateb cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol ac ar Gymru mewn sawl rownd lleol a rhanbarthol, cyn gallu cael 9 tîm buddugol i gystadlu ben ben yn erbyn ei gilydd ar y 27ain o Fawrth eleni.
Esbonia Cathryn Griffith, swyddog datblygu gyda Mentrau Iaith Cymru:
“Mae’r cwis hwn yn ennyn mwy o ddiddordeb a chystadleuwyr bob blwyddyn. 2021 oedd y tro cyntaf i ni gynnal y Cwis ym mhob ardal drwy Gymru, ac erbyn heddiw mae miloedd yn cystadlu a’r plant wrth eu bodd cael gwneud a chael dysgu drwy hwyl.”
Daeth 9 tîm at ei gilydd yn ddigidol a chael rhannu sgrîn gydag arweinwyr y cwis, y cyflwynwyr teledu poblogaidd Owain Williams a Mari Løvgreen. Gofynnwyd cwestiynau o fyd y chwaraeon, rhai cyffredinol, ar wledydd, dyddiadau, cerddoriaeth, ac anifeiliaid a bu llawer o grafu pen, chwerthin ac atebion arbennig gan y plant.
Dyma ddywedodd un athrawes o Ysgol y Bannau [Brycheiniog]:
“Roedd y gystadleuaeth yn uchel iawn ac mae’r plant wedi mwynhau yn fawr iawn. Maen nhw’n edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!”
Tra yng Nghwm Gwendraeth roedd llawer o blant yn fuming am iddynt fethu cyrraedd y rownd derfynol. Esbonia Derek Rees, swyddog datblygu gyda Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli:
“Mae’r plant mor gystadleuol, ac yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ymateb yn wych gyda’r plant a’r athrawon yn gweld budd cymysgu gyda phlant o’r un oed mewn ysgolion eraill.”
A’r ysgol fuddugol? Llongyfarchiadau enfawr i Ysgol Gynradd Gymraeg Trelyn, Caerffili!



Mae’r plant yn holi – tybed os allwch chi guro eu sgôr nhw? Cafodd y tîm buddugol 93% o’u cwestiynau yn gywir – camp aruthrol! Mae modd cael tro arni drwy ddilyn y ddolen hwn:
https://kahoot.it/challenge/04233302?challenge-id=13a6b68c-8568-4302-a6c6-797bcb4cfa53_1679914097915
Game PIN: 04233302

Yr ysgolion yn y rownd derfynol oedd:
- Ysgol Gymraeg Trelyn, Caerffili
- Ysgol Bro Teyrnon, Casnewydd
- Ysgol Abercynon
- Ysgol Gymraeg Rhydaman
- Ysgol Peniel, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol Y Dderi, Llanbedr Pont Steffan
- Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug
- Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth
- Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych